Jamie Evans

Enillydd Gwobr Iechyd a Llesiant
Enwebwyd gan: Addysg Oedolion Cymru a Brifysgol Agored yng Nghymru

Jamie Evans - Inspire winner (1).jpg cropped


Oherwydd teimladau o iselder a gorbryder, roedd Jamie Evans yn dueddol o ynysu ei hun oddi wrth eraill, cymaint felly nes byddai wythnosau’n mynd heibio heb unrhyw gyswllt dynol. Dywedodd:
“Dechreuais ddioddef gorbryder yn fy arddegau. Roedd gen i broblemau iechyd a oedd yn effeithio arna i bob dydd, a olygai fy mod yn colli’r ysgol, a dyna lle dechreuodd y cyfan.” Cafodd Jamie ddiagnosis o glefyd Crohn, a daeth ei orbryder yn rhwystr enfawr, gan ei atal rhag gweithio, cymdeithasu a gweld unrhyw un y tu allan i’w gartref.
“Ar fy ngwaethaf, fyddwn i ddim yn codi o’r gwely, ddim yn ’molchi na bwyta. Fyddwn i ddim yn ateb fy ffôn pan oedd fy nheulu’n ffonio a byddwn yn gwneud esgusodion pan fyddai ffrindiau yn fy ngwahodd i allan, felly roion nhw’r gorau iddi yn y diwedd.

Roeddwn i wedi bod yn ddi-waith ers 10 mlynedd oherwydd fy ngorbryder, fy iselder a phroblemau iechyd, a doedd gen i ddim ddyheadau na chynlluniau at y dyfodol – dim ond goroesi o ddydd i ddydd oeddwn i. Cefais boenladdwyr ar bresgripsiwn, ond dechreuais ddibynnu mwy a mwy arnyn nhw, a’u cymryd nhw’n amlach gan ‘mod i’n teimlo mor anhapus. Yn y pen draw, pan nad oedden nhw’n ddigon, troais at gyffuriau cryfach ac aeth fy mhroblemau o ddrwg i waeth. Fe wnaeth fy ngweithiwr cymorth camddefnyddio sylweddau neilltuo mentor cymheiriaid i mi.”

Cafodd daflen am gwrs Seicoleg 12 wythnos gydag Addysg Oedolion Cymru, a oedd yn cael ei gynnal mewn partneriaeth ag elusen iechyd meddwl New Horizons, a chofrestrodd amdano.

 

Ar y diwrnod cyntaf, sefais y tu allan i’r dosbarth am tua 20 munud yn edrych ar y drws, yn arswydo cyn mynd i mewn. Roeddwn i’n swp sâl yn poeni, a bu bron i mi fynd adref. Ond cliciodd rhywbeth y tu mewn i mi, a gorfodais fy hun i fynd i’r dosbarth. Roedd fy nosbarth cyntaf yn anhygoel. Roeddwn i’n teimlo gartrefol ar unwaith, ac yn edrych ymlaen at y dosbarth nesaf roeddwn i’n ysu i ddysgu mwy.”

Pan oedd y cwrs yn dod i ben, doedd Jamie ddim yn teimlo’n barod i roi’r gorau iddi ac fe gofrestrodd ar ddosbarth Troseddeg gyda’r un tiwtor, er bod angen teithio 40 munud i’r cwrs. Ymhen ychydig wythnosau, roedd ar drydydd cwrs Magu Hyder, y bu’n dilyn tri chwrs yr wythnos, cyn cofrestru yn y pen draw i wneud cwrs Mynediad yn y Dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol yng Ngholeg y Cymoedd.

“Fe wnes i gwrdd â chymaint o bobl newydd a dechreuodd fy ngorbryder ddiflannu’n raddol. Roeddwn i’n mwynhau fy hun ac roedd gen i deimlad cadarnhaol braf y tu mewn i mi. Roedd gen i bwrpas mewn bywyd.”

 

Gwobr Iechyd a Lles wedi'i noddi gan:

  • OU_Wales_Logo_Dark_Blue-1-150x150
  • Refined-Logo-PNG-ALW-150x150
  • Welsh Government
id before:6917
id after:6917