Diwrnod Datblygu Rhwydwaith Rhagoriaeth TUC Cymru Gorllewin Cymru Mehefin 2017
Hoffech chi ganfod mwy am y dysgu sy’n digwydd yn eich ardal?
Ydych chi eisiau’r wybodaeth ddiweddaraf at ddysgu gweithle dan arweiniad undeb yng Nghymru, yn cynnwys cyrsiau, adnoddau cyllid a chefnogaeth?
Pam na ddewch draw i Ddiwrnod Datblygu Rhwydwaith Rhagoriaeth agosaf TUC Cymru? Mae’r digwyddiadau hyn at gael i bob cynrychiolydd a swyddog undeb yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cynrychiolwyr dysgu undeb, cynrychiolwyr/swyddogion undeb, swyddogion cydraddoldeb, swyddogion cangen a swyddog proffesiynol aelodau.
Mae’r Dyddiau Datblygu yn rhad ac am ddim i’w mynychu a gallant gynnwys sesiynau gwybodaeth arbenigol, sesiynau rhyngweithiol, gwybodaeth gan ddarparwyr dysgu a llawer o syniadau y gallwch fynd â nhw yn ôl at eich aelodau a’ch canghennau.
Yn ogystal â’r wybodaeth a chylchlythyrau arferol, caiff Dyddiau Datblygu mis Mehefin eu trefnu i gyd-daro gyda’r Wythnos Addysg Oedolion.
Bydd cyfleoedd yn ystod y dydd i archebu sesiynau gyda darparwyr, partneriaid a mynychu gweithdy Cyfathrebu (D.S. dim at gael yn niwrnod Canolbarth Cymru). Mae’r Dyddiau Datblygu yn gyfle ardderchog i ddatblygu eich sgiliau eich hun a chwrdd â chynrychiolwyr eraill a rhannu syniadau.