Digwyddiad Dathlu Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr PAVS
Dewch i’n helpu i ddathlu Gwirfoddoli a chyfraniad Gwirfoddolwyr yn Sir Benfro.
Mae Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr yn ddathliad cenedlaethol o wirfoddolwyr a gwirfoddoli a gynhelir eleni rhwng 1-7 Mehefin.
Mae gan yr Wythnos Wirfoddolwyr ran enfawr yn codi proffil y miloedd o wirfoddolwyr sy’n cyfrannun rheolaidd at y gymuned, tra’n ysbrydoli eraill i gymryd rhan hefyd.
Mae Gwirfoddoli PAVS Sir Benfro yn cynnal ein digwyddiad dathlu Wythnnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr a’r Seremoni Wobrwyo at 7 Mehefin 2017 yn Neuadd Regency, Saundersfoot i gydnabod a diolch i wirfoddolwyr am roi eu hamser a’u hymrwymiad o fewn eu cymunedau yn Sir Benfro.
Sesiynau am ddim drwy’r bore (galwch heibio unrhyw amser rhwng 10.30-12.30) i roi cynnig at rywbeth newydd. Mae’r sesiynau’n cynnwys:
Celf gyda Oriel VC, antur Codi Sbwriel fach gyda Cadw Cymru’n Daclus (am 11.30am)
Cinio am ddim (i’w weini am 12.30 at gyfer pawb sy’n archebu)
Seremoni Wobrwyo i ddilyn cinio
Stondinau Arddangos Mudiadau Gwirfoddol
Lluniaeth at gael drwy gydol y dydd
Os na fedrwch fynychu drwy’r dydd mae croeso i chi ddod amser cinio at gyfer y Seremoni Wobrwyo.
Os ydych angen unrhyw help i ddod i’r digwyddiad cysylltwch â Louise neu Jean yn PAVS at 01437 769422
Fel arfer mae dros 150 o bobl yn mynychu’r digwyddiad bywiog hwn gyda dros 20 o fudiadau gwirfoddol yn hyrwyddo gwahanol gyfleoedd gwirfoddoli yn denu llawer o wirfoddolwyr newydd.
Anelwyd y digwyddiad am ddim hwn at wirfoddolwyr a hefyd fudiadau gwirfoddol.
Mae hwn yn ddathliad arbennig iawn eleni, gan mai dyma 10fed flwyddyn y Seremoni Wobrwyo, mae PAVS yn dathlu 20 mlynedd a byddwn yn nodi dechrau Gwyl Ddysgu Sir Benfro 2017.