Blas ar Dechnoleg
Bydd Tramshed Tech, mewn cysylltiad â rhai o’n haelodau a thenantiaid allweddol, yn cyflwyno sesiwn galw heibio drws agored lle bydd oedolion sy’n ddysgwyr yn cael cynnig cyfres o dechnoleg newydd.
Gan fod yn gydnaws gydag arbenigedd eang ac amrywiol ein haelodau a thenantiaid, byddwn yn gwahodd ymwelwyr i brofi, dysgu am a rhyngweithio gydag ystod o’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf, yn cynnwys dronau, rhith realaeth a robotiaid y medrir eu rhaglennu.
Bydd ein haelodau yn cynnwys Leaping Wing a’r Big Learning Company i gyd yn bresennol yn y digwyddiad galw heibio i roi cipolwg i ymwelwyr at gyfleoedd a phosibiliadau byd digidol heddiw. Bydd y digwyddiad yn galluogi’r cyhoedd i ddefnyddio’r dechnoleg digidol fwyaf arloesol!
Bydd y gweithdy yn darparu at gyfer nifer fawr o bobl oherwydd natur galw heibio y digwyddiad a byddai’n agored i bawb. Y gynulleidfa darged fydd oedolion a hoffai fwy o wybodaeth at dechnoleg ddigidol a’r cyfle i arbrofi gydag ef.