Emma Williams

Enwebwyd gan: Prifysgol Wrecsam Glyndwr
Dysgwr Oedolyn y Flwyddyn ac Enillydd Gwobr Newid Bywyd a Dilyniant (cyd-enillydd)

Cafodd Emma Williams ei geni yn Wrecsam a roedd wedi gadael cartref erbyn iddi fod yn 14 oed. Cafodd broblemau gyda’i iechyd meddwl a bod yn gaeth i gyffuriau, roedd yn ddigartref yn ei harddegau ac yn ofni na fedrai ddianc.

Pan oedd hi’n 21 oed, cafodd Emma ferch fach ac wrth iddi dioddef o iselder ôl-enedigol, gwaethygodd ei dibyniaeth ar gyffuriau ac aeth pethau o ddrwg i waeth. “Doeddwn i ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng dydd a nos,” meddai. “Roeddwn i’n teimlo mai oes o galedi oedd fy nhynged i. Roedd cyffuriau ac alcohol fel blanced diogelwch.”

Wyth mlynedd yn ddiweddarach, a hithau’n 29 oed fe gerddodd i mewn i ganolfan adfer ym Mae Colwyn, o’r enw Touchstones 12.

“Roedd coleg drws nesaf i’r ganolfan. Dechreuais gyda rhywbeth bach – ychydig o gyrsiau cyflogadwyedd i gadw fy meddwl yn brysur. Fe newidiodd fy mywyd.”

Wrth gael help gyda’i dibyniaeth, gwnaeth Emma gais am swydd fel gweithiwr cymorth adfer a threuliodd y ddwy flynedd nesaf fel gweithiwr achos, gan helpu eraill i ddelio â’u problemau cyffuriau eu hunain.Roedd cael ei diswyddo o’r swydd yr oedd yn ei hoffi yn ergyd, ond fe’i gwnaeth hi’n fwy penderfynol byth i ddysgu a gwnaeth gais i fynd i’r brifysgol.

Gan ddychwelyd at y cymwysterau roedd hi wedi llwyddo i’w cael yn ei hugeiniau, ynghyd â’r cyrsiau newydd roedd hi wedi’u cwblhau, llwyddodd Emma i wneud cais i ddechrau astudio ar gyfer gradd mewn Gwyddoniaeth Fforensig.

Meddai Emma, sy’n 39: “Ddeng niwrnod yn ddiweddarach, roeddwn i’n eistedd yn fy narlith cemeg cwantwm cyntaf. Dwi wedi dioddef dipyn gyda syndrom twyllwr. Does dim llawer o’r myfyrwyr yn edrych fel fi nac yn dod o gefndir tebyg i fi – ond dwi mor benderfynol.”

Dros y pum mlynedd nesaf cwblhaodd ei gradd mewn Gwyddoniaeth Fforensig a chwrs TAR, ac ar hyn o bryd mae hi’n cwblhau MRes mewn Anthropoleg Fforensig a Bioarchaeoleg gyda ffocws ar anthropoleg fiolegol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Ar ôl cymhwyso fel athrawes, bu’n addysgu ar y cwrs gradd Gwyddoniaeth Fforensig ac mae bellach yn gyfathrebwr gwyddoniaeth i Techniquest yn y gogledd, gan weithio fel model rôl i fenywod mewn pynciau STEM.

“Nawr dwi’n annog merched i astudio gwyddoniaeth fel fi,” meddai.

“Y peth dwi fwyaf balch ohono yw Maisie, fy merch, sydd wrthi'n astudio ar gyfer ei Lefel A. Mae hi'n fyfyrwraig ddisglair. Mae hi'n fy ngweld i'n dod adref weithiau ar ôl gwneud dwy swydd ac yn eistedd wrth fwrdd yr ystafell fwyta i astudio ac mae hi'n gwneud yr un peth â fi. Mae hi'r un mor benderfynol â'i mam."

Meddai: “Mae’n debyg na fyddwn i wedi byw’n hirach na 30 mlynedd pe bawn i wedi parhau i fyw fy mywyd fel oeddwn i. Ac eto, dwi’n nabod cymaint o bobl sydd wedi bod trwy lawer gwaeth. Os galla i ysbrydoli o leiaf un person neu ddangos i rywun sy’n ei chael hi’n anodd bod modd trawsnewid eich bywyd drwy addysg, yna mae’r cyfan yn werth yr ymdrech.”

Mae hi’n cyfaddef nad yw wedi bod yn hawdd, ond mae Emma, sydd wedi darganfod fod ganddi anghenion ychwanegol, yn annog pobl eraill i ofyn am help: “Pan fyddwch chi’n cael trafferth credu ynoch chi’ch hun, mae’r bobl o’ch cwmpas yn gwneud gwahaniaeth mawr. Roedd y gefnogaeth ges i, nid yn unig gan f’anwyliaid ond gan fy nhiwtoriaid hefyd, yn help mawr i mi wrth i mi i ddod o hyd i’m llais a’r angerdd tu mewn i mi. Dwi eisiau profi i’m merch y gall hi wneud unrhyw beth y mae hi’n benderfynol o’i wneud – yn union fel fi.”

 

Noddwr Gwobr Newid Bywyd a Dilyniant:

  • Welsh Government
id before:6890
id after:6890