
Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid ar agor ar gyfer enwebiadau!
Mae'r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn falch i gynnal Gwobrau mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru.
Croesawn enwebiadau gan diwtoriaid a mentoriaid eithriadol yng Nghymru y mae eu hymroddiad, gwybodaeth a sgiliau wedi rhoi'r ysbrydoliaeth a her i oedolion ddilyn eu nodau a'u breuddwydion fel dysgwyr a thrawsnewid eu bywydau. Bydd tiwtor yn dangos sut y maent yn mynd yr ail filltir i helpu oedolion sy'n ddysgwyr i ddatgloi eu potensial.
Daeth 2020 â heriau enfawr a tharfu ar addysg oedolion. Mae’r pandemig coronafeirws a’r cyfnodau clo wedi amlygu’r bwlch digidol sy’n bodoli i lawer yn ogystal â gwerth dysgu i feithrin rhwydweithiau cymdeithasol a chefnogi iechyd meddwl. Mewn llawer o ffyrdd, mae cymunedau dysgwyr wedi ymateb drwy ddefnyddio eu sgiliau i gefnogi’r ymateb lleol i’r pandemig drwy gefnogi’r GIG ac eraill yn eu bro. Mae’r cyfnod heriol hwn wedi cyflymu gwaith darparwyr dysgu yn creu ffyrdd newydd o ddysgu – drwy ddulliau mwy digidol a chyfunol. Mae wedi amlygu cadernid, talent ac ymrwymiad y gweithlu addysg oedolion ledled Cymru.
Hoffem roi gwobr arbennig i gydnabod yr ymateb a wnaeth y sector addysg oedolion i gefnogi unigolion a chymunedau mewn ymateb i’r pandemig.
Mae gennych tan ddydd Gwener 8 Ionawr 2021 i gyflwyno'ch enwebiad.
Edrychwn am diwtoriaid a mentoriaid o'r gosodiadau dilynol:
- Addysg Uwch
- Addysg Bellach
- Gweithle
- Addysg Gymunedol
- Cymraeg i Oedolion
- Ysgol neu osodiad arall
Cyflwynwch eich enwebiad:
Lawrlwythwch gopi o'r dogfennau islaw i gyflwyno eich enwebiad.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 8 Ionawr
Nodwch os gwelwch yn dda: ni chaiff y dyddiad cau ei ymestyn eleni, felly gofynnwn i chi roi digon o amser i'ch hunan i gyflwyno eich enwebiadau erbyn y dyddiad cau: [email protected]
Os ydych angen ychydig o ysbrydoliaeth, ewch i'n tudalen You Tube i weld ein ffilmiau enillwyr gwobrau tiwtoriaid 2019.
Helpwch ni i ledaenu'r gair:
Lawrlwythwch gopi o'n taflen Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid a rhannu'r enwebiadau gyda'ch rhwydweithiau, a'n helpu i gydnabod a rhoi sylw i waith rhyfeddol tiwtoriaid a mentoriaid yng Nghymru.
Ydych chi'n trydaru am y gwobrau hyn? Defnyddiwch y hashnod:
#TutorAwardsCymru
Rydym hefyd ar y llwyfannau dilynol:
Os os gennych unrhyw gwestiynau am yr enwebiadau, cysylltwch â: