Mae tua 900,000 o bobl yn Lloegr a Chymru ‘heb hyfrededd’ mewn Saesneg, yn ôl cyfrifiad 2011. Gall oedolion gyda sgiliau Saesneg gwael ei chael yn anodd cael mynediad i addysg, canfod gwaith, cymryd rhan yn eu cymunedau neu gefnogi addysg eu plant.
Ein gweledigaeth yw fod pob oedolyn a allai fanteisio ar hynny yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn dysgu ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill). Drwy ein gwaith cyfredol gwelwn dystiolaeth o botensial ESOL i gael effaith gadarnhaol ar fywyd oedolion yn nhermau iechyd, cyflogaeth, addysg a chyfranogiad mewn cymunedau a bywyd bob dydd.
Rydym yn gweithio i wella buddsoddiad mewn ESOL ar gyfer mynediad i ddarpariaeth ansawdd uchel a phriodol sy’n grymuso unigolion i gymryd mwy o reolaeth o’u bywydau ac yn helpu i ostwng costau a gwastraff mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill. I gyflawni hyn rydym yn dylanwadu ar bolisi i sicrhau cyfleoedd dysgu mwy integredig, cydlynol ac effeithlon mewn ESOL a datblygu arfer effeithlon wrth gyflwyno ESOL, gan ganolbwyntio ar ddulliau gweithredu sy’n sicrhau dilyniant a chanlyniadau cadarnhaol ar gyfer y bobl fwyaf difreintiedig.
Adnoddau, erthyglau a ffilmiau cysylltiedig:
Polisi Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yng Nghymru – Llywodraeth Cynulliad Cymru
Deunyddiau Dinasyddiaeth NIACE ar gyfer Dysgwyr ESOL Rhan 1 – Rhan 2
ESOL yng Nghymru: Dysgu oddi wrth y Sector Gwirfoddol
Sut y gall addysg oresgyn gwleidyddiaeth wenwynig mewnfudo (Safle NIACE Lloegr)
Sgwrs hanfodol y dylai pawb ymuno ynddi (Safle NIACE Lloegr)
ESOL ONline – Grŵp a enillodd wobr yn Wythnnos Addysg Oedolion 2016