Allanfa argyfwng: Sut mae cael Prydain yn ôl i waith

Gweithredodd y Llywodraeth yn gyflym ac ar raddfa ddigynsail i ddiogelu busnesau, swyddi ac incymau yn ystod yr argyfwng ac i leihau’r difrod economaidd hirdymor.

Serch hynny, mae’n amlwg fod y pandemig yn cael effaith enfawr ar y farchnad lafur. Roedd angen y cyfnod clo a gyflwynwyd ddiwedd mis Mawrth i arafu lledaeniad y feirws, ond cafodd effaith sylweddol ar yr economi, gan arwain at gynnydd mawr mewn diweithdra. Roedd 2.5 miliwn o geisiadau am Gredyd Cynhwysol yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill yn unig, ac mae mwy na 8 miliwn o weithwyr ar y cynllun ffyrlo.

Mwy o wybodaeth ar Safle'r DU

id before:6341
id after:6341