Fel y gwyddoch cafodd Reforming Outcomes, A Review of Offender Education in Wales ei gyhoeddi ym mis Mawrth eleni. Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o ganfyddiadau ac argymhellion pwysig ar gyfer llywodraeth, asiantaethau llywodraeth, darparwyr a’r sector yn ehangach.
Er mwyn parhau’r broses o symud ymlaen â’r argymhellion hoffem eich gwahodd i fynychu digwyddiad Rhanddeiliaid Dysgu a Chyflogadwyedd Troseddwyr:
Dyddiad
Dydd Gwener, 26 Gorffennaf 2019
Amser
9am – 3pm
Lleoliad
Gwesty Future Inn, Caerdydd – Cyfarwyddiadau
Bydd hwn yn gyfle i ddod â rhanddeiliaid ynghyd i helpu llunio cynlluniau a blaenoriaethau ar gyfer y sector a pharhau â’r broses o wella cydlyniaeth rhwng llywodraeth, asiantaethau, carchardai, darparwyr a’r trydydd sector.
Bydd agenda ar gyfer y diwrnod i ddilyn ond gofynnir i chi nodi y bydd Kirsty Williams AC, Gweinidog Addysg, yn bresennol am ran o’r cyfarfod. Bydd cyflwyniadau gan swyddogion Llywodraeth Cymru, HMPPS, Gyrfa Cymru (ar wasanaeth newydd Cymru’n Gweithio), mewnbwn gan y sector gyda thystiolaeth o arfer gorau, a thrafodaethau am flaenoriaethau ymchwil a datblygu yn y dyfodol.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau os gallwch fod yn bresennol drwy gysylltu Wendy Ellaway-Lock â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith.