Safonau’r Iaith Gymraeg
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi Safonau’r Gymraeg a osodir gan Lywodraeth Cymru dan Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cydymffurfio â nhw o 25 Ionawr 2017.
Y Safonau
Cyfres o ofynion cyfreithiol rhwymol yw Safonau’r Gymraeg sy’n ceisio gwella’r gwasanaethau dwyieithog y gall pobl Cymru eu disgwyl gan nifer o gyrff cyhoeddus a statudol, gan gynnwys Sefydliad Dysgu a Gwaith. Mae’r Safonau’n nodi’n glir beth yw ein cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau dwyieithog, gan sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Mae’n rhaid i Sefydliad Dysgu a Gwaith gydymffurfio â’r safonau canlynol:
- Cyflenwi Gwasanaethau
- Llunio Polisi
- Gweithredu
- Cadw Cofnodion
Hysbysiad cydymffurfio
Anfonwyd hysbysiad cydymffurfio i Sefydliad Dysgu a Gwaith ar 25 Ionawr 2016, sy’n nodi’r safonau sy’n berthnasol i ni. Mae’r Hysbysiad Cydymffurfio llawn ar gael isod.
Cynllun Iaith
Dyma gynllun iaith Sefydliad Dysgu a Gwaith.
Sylwadau
Os hoffech wneud sylwad am ein defnydd o’r Gymraeg yna cysylltwch gyda [email protected]