Alisha Morgan

Gwobr Oedolyn Ifanc
Enwebwyd gan: Coleg Y Cymoedd

Mae Alisha Morgan, sy’n 20 oed ac yn dod o Benrhys, yn ofalwraig llawn amser i’w mam Heidi, sydd â nifer o gyflyrau meddygol gan gynnwys dementia cynnar.

Yn 17 oed, roedd Alisha yn delio gyda’i hiechyd meddwl ac oherwydd hynny ac am ei bod hi’n gofalu am ei mam, roedd hi’n teimlo nad oedd ganddi ddewis ond gadael ei chwrs coleg. Roedd bywyd yn anodd ac roedd yn anodd cael y cydbwysedd iawn rhwng popeth, ac ar ôl i ffrind i’r teulu ladd ei hun, dechreuodd Alisha deimlo’n isel.

Cofrestrodd ar gwrs hyfforddi cymorth cyntaf iechyd meddwl, a helpodd hyn hi i ddod o hyd i fecanweithiau ymdopi ar gyfer yr hyn yr oedd yn mynd drwyddo. Wrth ddilyn y cwrs hwnnw, llwyddodd i ddod o hyd i’r cymorth i fynd yn ôl i’r coleg, ar ôl cael ei hysbrydoli gan y gofal y mae hi a’i brawd a’i chwaer yn ei roi i’w mam.

Fel tîm, maen nhw’n gofalu am ei mam bob dydd, ac yn gwneud popeth o reoli ei meddyginiaeth, coginio ei phrydau bwyd i olchi.

Meddai Alisha:
“Roedd gen i lawer o brofiad o ofalu am rywun sy'n sâl iawn, felly fe feddyliais i y gallwn i ddilyn gyrfa mewn gofal iechyd. Roedd gen i ddiddordeb mawr yn yr holl ddamcaniaeth a gwyddoniaeth sy'n rhan ohono. Pan wyt ti'n gofalu am dy fam dwyt ti ddim yn meddwl am y tasgau rwyt ti'n eu gwneud drwy'r dydd, rwyt ti'n eu gwneud nhw heb feddwl.”

Roedd hi’n benderfynol o ddilyn gyrfa lwyddiannus, ac mae hi bellach yn gweithio tuag at ei Diploma Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg y Cymoedd ac yn gobeithio bod yn nyrs iechyd meddwl i blant.

Meddai: “Mae’r coleg mor gefnogol. Mae popeth yn parhau i fod yn dipyn o her ac ambell ddiwrnod dwi’n eistedd yn y dosbarth gan wybod fy mod i’n mynd i gael galwad ffôn i ddweud bod mam wedi gwaethygu, neu’n meddwl am y meddyginiaethau sydd angen i mi eu trefnu. Ond maen nhw’n hyblyg iawn ac yn deall sut mae pethe gartref.”

Yn ogystal â gofalu am ei mam a mynd i’r coleg yn llawn amser, mae Alisha wedi sefydlu Clwb Ieuenctid Glynrhedynog ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys y rhai sydd wedi colli anwyliaid i hunanladdiad.

Meddai: “Ar fy ngwaethaf, yn syth ar ôl i’n ffrind teulu ladd ei hun, roeddwn i’n gofalu am fy mam ac yn ceisio dal ati gyda’m gwaith coleg. Roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy o isel. Roeddwn i’n gofalu am fy mam, ac yna’n rhuthro’n syth i’r coleg. Doeddwn i byth yn mynd allan a doedd gen i ddim bywyd cymdeithasol gwerth sôn amdano. Doedd dim llawer o gyfle i mi siarad gydag unrhyw un am yr hyn roeddwn i’n mynd drwyddo.”

Mae’r clwb ieuenctid ar gael i bobl ifanc 11 i 25

Meddai: “Weithiau mae’n anodd i mi siarad am bethau fel galar ond mae hefyd yn fy helpu i sylwi ar arwyddion. Rydyn ni’n siarad fel grŵp neu weithiau’n cael sgwrs bersonol gyda rhywun. Mae’n braf gwybod nad fi yw’r unig un a bod pobl eraill yn cael profiadau tebyg i fi.

“Mae trefnu’r clwb ieuenctid yn rhoi rhywfaint o amser a lle i mi ar fy mhen fy hun i sgwrsio â gofalwyr eraill neu bobl sy’n ceisio ymdopi â galar. Dwi wedi gwneud cymaint o ffrindiau newydd dwi’n gallu sgwrsio â nhw neu gysylltu â nhw ar y cyfryngau cymdeithasol. Yr unig beth dwi’n gyfarwydd ag ef mewn bywyd yw bod yn ofalwr ifanc. Mae’n anodd weithiau, ond mae’n rhaid dal ati.”

Meddai: “Dwi am fod yn nyrs bediatrig sy’n arbenigo ym maes iechyd meddwl. Fe fydda i’n parhau i ddal ati er mwyn gwneud fy mam yn falch.”

Gwobr Oedolyn Ifanc wedi'i noddi gan:

  • Refined-Logo-PNG-ALW-150x150
  • OU_Wales_Logo_Dark_Blue-1-150x150
  • Welsh Government
id before:6874
id after:6874