Sam Gardner – Y tair gwers iechyd meddwl a ddysgais o bandemig byd-eang.

Mae’n 4.24 yn y bore ac mae’n debyg nad yw’r golau o sgrin fy ffôn yn fy helpu i gysgu. Mae’r ffan yn chwyrlio wrth i olau’r bore gripian drwy’r llenni. Rwy’n hollol ddeffro. Rwyf wedi bod yn cymryd moddion gwrth-iselder am y 2 fis diwethaf, sy’n codi lefelau’r seratonin (hormon hapus) ac sydd, ar hyn o bryd, yn goleuo fy ymennydd fel pelen eira yng ngolau’r lleuad.

Nid yw’n unrhyw gyfrinach fy mod yn frenin am bryderu. Gall dwysedd ofnau afresymol dyfu o hofrennydd annisgwyl, taran neu ddarllen gormod am Iran. Rwy’n hollol ymwybodol fod fy ofnau yn afresymol, ond mae fy nghorff yn gweithredu mewn ffordd or-sensitif i sbardun penodol. Dywedwyd wrthyf fod hyn yn ganlyniad y diffyg sefydlogrwydd a brofais fel plentyn. Mae teimlo’n ansicr ym mêr fe esgyrn.

Fy null o ymdopi yw bod eisiau rheoli’r sefyllfa. Felly rwy’n canfod fy hunan yn edrych ar ystadegau coronafeirws bedair gwaith a dydd ac yn edrych hyd yn oed yn amlach ar y newyddion ar y BBC. Porthi nerfau disgwyliad.

Wythnos cyn cyhoeddi’r cyfnod cloi, cefais herc enfawr. Un diwrnod roeddwn yn yr ystafell ddosbarth, yn llawn egni ac wedi cysylltu. Y bore nesaf, wnes i ddim symud o’r gwely am dair wythnos. Roedd fy ymennydd wedi torri. Fe wnes gau fy hunan i ffwrdd o weddill y byd fel meudwy. Roedd tasgau bach yn ymddangos yn anferthol. Dim cymhelliant, dim diben. Roedd y cyfan yn ormod.

Nid fi oedd yr unig un a deimlai fel hyn. Mae’r pandemig yma wedi brawychu iechyd meddwl y blaned drwy hysteria gwyllt ac ansicrwydd. I mi, ynghyd â’r ffaith fy mod ar fin newid swydd a symud allan o fy fflat, fe wnes yn bendant iawn ddisgyn oddi ar glogwyn. Roedd yn teimlo fel petai fy nghorff wedi penderfynu ei bod yn amser rhoi’r gorau iddi. I bwyso a mesur pethau a chael fy nghefn ataf. Nos da Mr G.

Rwy’n credu mai’r ffordd i gael meddwl cadarn yw drwy’r amgylcheddau rydym yn eu creu, yn ddigidol a hefyd yn gorfforol. Gall peidio bod yn ymwybodol o hyn frathu eich iechyd meddwl.

8 wythnos yn ddiweddarach, rwy’n gryfach ac erioed. Dyma pam.

  1. Bod yn y Presennol. Heb fod eisiau swnio fel yogi, rwy’n dechrau gwerthfawrogi’r angen i fyw yn y presennol. Nid i rwystro meddyliau, ond i’w hadnabod a dod yn ddiduedd iddynt. Rydym naill ai’n byw yn y dyfodol neu yn y gorffennol a phrin yn sylwi ar yr unig foment sy’n bwysig. Y presennol. Os ydych unrhyw beth fel fi, gall llif cyson syniadau lethu. Mae’r cyfnod cloi wedi fy ngorfodi i arafu. Ar ôl ychydig wythnosau fe wnaeth fy meddyliau di-ddal setlo, ac rwyf wedi dod yn fwy ymwybodol o’r presennol. Mae deg munud o amser meddwl am 9.00pm yn cael trefn ar bethau. Gwers gyntaf – rhowch sylw manwl iawn i’r presennol.
  2. Pwysigrwydd trefn. Mae trefn sy’n rhywbeth awtomatig i mi fel arfer. Rwy’n codi, gweithio’r rhan fwyaf o’r dydd ac ymlacio o tua saith ymlaen. Mae bod i ffwrdd o’r gwaith mor hir yn sioc fawr i’r system. Rwy’n teimlo diffyg diben ac egni. 11.00pm? Does dim angen cwsg… beth yw’r pwynt? Brecwast am 11.00am? Pam lai? Fe wnaeth wawrio arnaf ychydig wythnosau yn ôl nad oeddwn wedi gweld golau’r haul am bum diwrnod ar ôl ei gilydd. Gall hyn ar ei ben ar hun eich anfon i anrhefn feddyliol. Yn gyntaf, rwy’n dechrau gyda’r cam bach o wneud fy ngwely yn y bore. Yna gwneud pwynt o wisgo amdanaf ar gyfer y diwrnod (doeddwn i ddim wedi bod yn gadael fy ngwely). Camau bach ymlaen. Yna fe wnes ddechrau neilltuo amser yn fy nghalendr, er mwyn canfod rhyw fath o drefn. 2.00pm – gwrando ar lyfr sain; 4.00pm – edrych ar ychydig o Tiger King; 5.00pm – mynd i redeg; 6.00pm – cawod. Mae’n swnio’n OCD iawn ond mae wedi newid pethau’n llwyr. Rwy’n hyblyg gydag ef. Yr ail wers – cael strwythur.
  3. Dydyn ni ddim bod i fyw ar ben ein hunain. Nac i deimlo’n unig. Ffenomen ddiweddar yw bod cynifer ohonynt wedi cysylltu mwy nag erioed ond ein bod yn bell o’n gilydd. Mae gwahaniaeth rhwng bod yn unig a’i frawd gwell, unigedd. Unigedd yw lle rydych yn canfod gofod ar eich cyfer eich hunan i ddim ond bod. I gael eich cefn atoch. Hygge. Rwy’n bendant yn sicrhau hyn gyda thost Nutella, Netflix a llwyth o goffi.

Ar y llaw arall, mae’n bwysig addasu’r ffordd y cysylltwn â’n tylwyth. Pa bynnag mor bell oddi wrth ein gilydd y gallem fod. Rwy’n credu mai’r allwedd i berthynas ddyfnach yw bod yn bresennol gyda’r bobl o’ch amgylch. I wirioneddol glywed yr hyn maent yn ei ddweud. I fod yn drugarog. Rwy’n awr yn gwneud ymdrech i godi’r ffôn a siarad gyda ffrind heb unrhyw fwriad go iawn o beth y gallai’r sgwrs fod. Mae hyn yn fy llenwi.

Mae cyfuno’r agweddau uchod wedi bod o fudd enfawr i fy nghyflwr meddwl. Rwyf wedi dechrau gwerthfawrogi nad yw unrhyw ddyn yn ynys – mae pawb ohonom yn y cwch yma gyda’n gilydd.

Byddwch yn bresennol. Byddwch yn ddiolchgar. Byddwch yn garedig.


Sam Gardner, Ysbrydoli! Enillydd Gwobr Dysgu Oedolion 2016
Gweld stori Sam