Ffocws ar Gymru gyda lansio cynllun peilot Cyfrifon Dysgu Personol

Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn ôl yn y ffasiwn.

Yn Lloegr mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer Cyfrif Dysgu a Sgiliau £9,000, a soniodd Sajid Javid am gynlluniau tebyg yn ystod brwydr arweinyddiaeth y Ceidwadwyr. Ym mhedwar ban byd mae modelau tebyg yn dechrau cael effaith ar gyfranogiad mewn dysgu a hyfforddiant.

Yng Nghymru, lansiwyd  rhaglen beilot, yr ymrwymwyd iddi gyntaf yn y Cynllun Cyflogadwyedd yn 2018. Yn cael ei rhedeg gan Goleg Gwent a Grŵp Llandrillo Menai, bydd y cynllun peilot yn cefnogi pobl sydd eisoes mewn gwaith i ailhyfforddi ar gyfer gyrfaoedd mewn sectorau penodol lle mae prinder sgiliau.

I gefnogi datblygiad y cynllun peilot fe wnaethom gyfweld â darpar ddysgwyr a chyflogwyr yn y ddwy ardal. Mae eu hymateb yn dangos rhai o’r heriau allweddol y bydd angen i ddarparwyr, gwasanaethau cynghori a llywodraeth eu goresgyn i’w wneud yn llwyddiannus.

Hyblygrwydd: esboniodd pobl sut mae byd gwaith wedi newid a pham fod gan hyn oblygiadau mawr ar gyfer y math o hyblygrwydd maent eu angen. Mewn byd lle nad yw pobl efallai yn gwybod pa mor hir na phryd y byddant yn gweithio o wythnos i wythnos, mae’n anhygoel o anodd i ddarparwyr a hefyd i unigolion gynllunio dysgu. Yr her i ddarparwyr yw ymateb gyda llwybrau dysgu hyblyg sy’n galluogi unigolion i gyfuno eu dysgu gyda byd sy’n newid ac ymrwymiadau teuluol. Bydd cyflwyno mwy o gyrsiau gyda’r nos ac ar benwythnosau yn gweithio i rai, ond i eraill bydd angen i’r profiad fod yn un personol ac ymatebol iawn.

Cefnogaeth: cyn cymryd y naid yn ôl i addysg, mae angen darbwyllo unigolion y bydd yr amser a’r ymdrech a gymerir yn werth chweil. Byddant yn pwyso a mesur y buddion o gymharu â’r costau (yn cynnwys amser a chost cyfle) ac yn edrych ar y rhwystrau ymarferol fydd yn eu hwynebu a’r gefnogaeth a gânt. Bydd r֧ôl Cymru’n Gweithio yn helpu i ddynodi angen a chanfod datrysiadau yn bwysig, ond mae angen ymateb system gyfan ar gyfer trin rhwystrau megis gofal plant a mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus (yn arbennig ar benwythnosau a gyda’r nos) yn yr hirdymor. Bydd dysgu gydol oes yn sbardun bwysig i ffyniant Cymru yn y dyfodol a bydd y cynllun peilot yn profi os gall y system roi’r gefnogaeth maent ei hangen.

Cysylltiadau gyda chyflogwyr: roedd dysgwyr eisiau gwybod fod y cwrs yn gredadwy ac y byddai’n arwain at gyfleoedd go iawn gyda chyflogwyr lleol. Os ydynt yn mynd i ymrwymo i fisoedd o waith caled byddant eisiau gwybod y bydd rhywbeth iddynt ar y diwedd. Dynodwyd cysylltiadau agos gyda chyflogwyr lleol fel un ffordd i’w helpu i ddeall disgwyliadau cyflogwyr a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt ym mhob sector. Mae gan golegau gysylltiadau llydan a hefyd ddwfn gyda chyflogwyr lleol a bydd yn hanfodol y cant eu hysgogi i helpu dysgwyr i ganfod gwaith.

Hygrededd gyda darpar gyflogwyr newydd: yn olaf, roedd gan gyflogwyr rai negesuon pwysig hefyd. Mae teimlad cadarnhaol iawn am y rhaglen, parodrwydd i gysylltu gyda hi a chefnogaeth eang ar gyfer y cymwysterau a gynigir. Roedd dau bryder yn amlwg: yn gyntaf, mynegodd rhai cyflogwyr bryderon cyffredinol nad yw Addysg Bellach bob amser yn cynhyrchu unigolion parod i’r gwaith tra bod eraill yn tueddu i ffafrio hyfforddiant ar y swydd yn hytrach na recriwtio o raglenni coleg gydag achrediad. P’un ai yw hyn yn deg ai peidio, mae angen i’r peilot sefydlu hygrededd gyda chyflogwyr fel bod dysgwyr, pan fyddant wedi cymhwyso, yn barod i ddechrau ar eu gyrfaoedd newydd ac yn barod am oes o ddysgu yn y dyfodol.

Mae her cyflogadwyedd gydol oes yn hollbwysig i ddyfodol pawb ohonom. Bydd gwneuthurwyr polisi mewn rhannau eraill o’r byd yn dilyn y cynllun peilot i asesu os gall fod yn ateb i gyflogau isel a diwallu anghenion sgiliau Cymru ar gyfer y dyfodol. Dylem ni’n hunain gadw golwg agos ar y cynllun i ddeall sut mae angen i ni newid y system i wneud iddi weithio i unigolion a chyflogwyr.  Gallai gynnig gwersi pwysig i ni am sut y dymunwn i’r system edrych wrth i ni ddechrau ar y degawd nesaf.