Bwrdd Crwn ESOL: Llunio dyfodol darpariaeth ESOL yng Nghymru

Er mwyn herio a chefnogi Cymru Uchelgeisiol sy’n Dysgu, cynllun gan Lywodraeth Cymru, fe lansiodd Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru gyfres o gyfarfodydd bwrdd crwn i roi goleuni ar feysydd polisi nad ydynt bob amser yn yn cael sylw haeddiannol, meysydd ble mae cyfle i hyrwyddo newid.

Cynhaliwyd y cyfarfod bwrdd crwyn cyntaf ym mis Rhagfyr y llynedd pan ddaeth rhanddeiliaid sy’n cyflenwi ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) at ei gilydd i edrych ar heriau yn y sector, arloesedd yng Nghymru a llefydd eraill sy’n hybu newid, a datrysiadau ar gyfer y dyfodol.

Yn sgil yr adroddiad gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad y llynedd ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i adolygu’r polisi ESOL. Mae’n hargymhellion wedi eu llunio i helpu i osod sylfaen i’r broses honno o newid.

Clywsom am y rhwystrau y mae dysgwyr yn eu hwynebu (rhai ymarferol, ariannol a diwylliannol) a’r her o brinder darpariaeth ar y lefelau iawn yn y mannau iawn. Clywsom hefyd am heriau cefnogi teuluoedd o Syria, yn enwedig o ardaloedd mwy gwledig gyda lefelau is o lythrennedd a rhifedd.

Clywsom hefyd am y ddarpariaeth ragorol sy’n helpu i drawsnewid bywydau pobl a sut mae arloesedd trwy REACH Caerdydd a’r Fro (dan arweiniad Coleg Caerdydd a’r Fro) yn dechrau dod a mwy â gydlyniant i’r ffordd y mae dysgwyr yn cael eu hasesu a’u cefnogi.

Mae yna heriau mawr ond hefyd resymau i fod yn hyderus fod newid a gwelliannau ystyrlon yn bosibl. Rydym yn obeithiol fod ein hargymhellion canlynol ar gyfer newid yn fan cychwyn da ar gyfer llunwyr polisïau:

  • Defnyddio rhaglen REACH Caerdydd a’r Fro fel templed ar gyfer sut y gall ardaloedd eraill fynd ati’n briodol i asesu dysgwyr, sicrhau eu bod yn cael y ddarpariaeth iawn, a’u bod yn cael y cyfle i wneud cynnydd;
  • Canolbwyntio ymdrechion i adeiladu mwy o gapasiti ar lefel cyn-mynediad a lefelau isel ble mae’r galw mwyaf;
  • Creu gwell cysylltiadau rhwng ESOL ag addysg alwedigaethol, cynllun carlam ar gyfer dysgwyr ar y lefelau uchaf, a hybu darpariaeth hyblyg i’w chyflwyno yn y gweithle gan undebau llafur i bobol sydd eisoes mewn gwaith;
  • Gwneud gwell defnydd o wirfoddolwyr a chyfleoedd dysgu anffurfiol i gefnogi a gwella darpariaeth ffurfiol (er enghraifft, clybiau iaith anffurfiol);
  • Ystyried strategaeth datblygu gweithlu i helpu i gadw staff a rhoi’r sgiliau angenrheidiol iddyn nhw i gynllunio a chyflenwi darpariaeth o safon;
  • Gwneud gwell defnydd o ddysgu digidol a defnydd addas o dechnoleg i hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer dysgwyr a gwella ansawdd y ddarpariaeth.

Fel bob amser, mae yna lawer iawn o arfer da y gallwn fanteisio arno ac enghreifftiau ymarferol o’r mannau ble gallai newidiadau penodol wneud gwir wahaniaeth. Bydd polisi ESOL diwygiedig Llywodraeth Cymru yn gyfle i fesur faint o uchelgais sydd gennym fel cenedl ar gyfer cyd-ddinasyddion a ddaeth yma i wneud eu cartref yng Nghymru.