Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2018
Mae ymchwil newydd y Sefydliad Dysgu a Gwaith a gafodd ei ryddhau cyn yr Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, yn awgrymu bod un o bob pump o gyflogwyr prentisiaid yn ansicr o’r rheolau ynghylch cyflogau prentisiaid.
Mae canfyddiadau arolwg o dros 2000 o fusnesau ar draws Cymru a Lloegr yn dilyn data Llywodraeth y DU, sy’n dangos y cafodd 14 y cant o brentisiaid yng Nghymru eu talu’n llai na’r isafswm cyflog roedd ganddynt hawl gyfreithiol i’w gael.
Yn ogystal â darganfod nad oedd 22% o gyflogwyr wedi clywed am isafswm cyflog i brentisiaid, canfu’r arolwg hefyd, nad oedd 54% o gyflogwyr yn gwybod bod angen i brentisiaid gael hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith, doedd 43% ddim yn gwybod bod angen talu am yr hyfforddiant hwn i ffwrdd o’r gwaith, a doedd 41% ddim yn gwybod bod yr isafswm cyflog ar gyfer prentisiaid dros 19 oed yn codi yn ail flwyddyn eu prentisiaeth.
Argymhellir gweithredu mewn tri maes:
* Gwneud cyflogwyr yn ymwybodol. Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod pob cyflogwr yn ymwybodol o’r rheolau
* Hawliau a chyfrifoldebau. Dylid amlinellu’r hawliau isafswm cyflog a newidiadau tebygol ar ddechrau’r brentisiaeth, gyda darparwyr hyfforddiant yn arwain y ffordd
* Gorfodi rheoliadau. Dylai prentisiaid fod yn glir ynglŷn â beth i’w wneud os ydynt yn meddwl bod problem
Meddai David Hagendyk, Cyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru:
“Mae prentisiaethau’n gyfle gwych i unigolion gael mynediad at hyfforddiant a chyflogaeth o safon. Ond maen nhw hefyd yn rhan hanfodol o’n hymateb i fyd gwaith sy’n newid – yn arbennig o ran sicrhau bod gan fusnesau fynediad at y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Mae’n bwysig dros ben felly, bod pob prentisiaeth o safon, a bod prentisiaid yn cael eu talu’r hyn mae ganddynt yr hawl i’w gael.
“Gydag un o bob pump o gyflogwyr ddim yn ymwybodol o’r rheolau o amgylch y cyfraddau isafswm cyflog i brentisiaid a 14 y cant o brentisiaid ddim yn cael eu talu’r hyn mae ganddynt yr hawl i’w gael, a gyda chynnydd o 36% o brentisiaid yn eu hail flwyddyn, mae’n amlwg bod angen gwneud mwy i sicrhau y glynir at y rheolau.
“Mae prentisiaethau’n rhan annatod o gynyddu cynhyrchiant Cymru ar draws y bwrdd. Mae angen i gyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, undebau llafur a’r llywodraeth ddod at ei gilydd i ddod o hyd i ateb sy’n codi ymwybyddiaeth yn ogystal â sicrhau gorfodaeth – fel y gallwn barhau i hyrwyddo prentisiaethau fel llwybr i gyflogaeth o safon i bobl ifanc yng Nghymru.
- Roedd yr ymchwil a gynhaliwyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, yn cynnwys arolwg B2B o 2,046 o wneuthurwyr penderfyniadau uwch o blith trawstoriad o gyflogwyr rhwng 23 Hydref a 2 Tach 2017.
Gallwch ddod o hyd i gopi o’r adroddiad llawn yn:
http://www.learningandwork.org.uk/resource/apprentice-pay-sticking-to-rules/
2. Mae Arolwg Tâl Prentisiaethau 2016 (Cymru) yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU. Gellir dod o hyd iddo yma:
https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/630089/apprenticeship-pay-survey-2016-report-wales.pdf
Gellir gweld data perthnasol a gymerwyd o’r adroddiad isod. Yn seiliedig ar y ffigurau hyn, talwyd 14% o’r holl brentisiaid yng Nghymru a aseswyd am beidio â chydymffurfio yn is na’u hawl i gael yr isafswm cyflog cenedlaethol. Mae’r ffigwr hwn yn codi i 36% ar gyfer y rheiny sydd yn ail flwyddyn eu prentisiaeth. Mae’r dyfyniad perthnasol yn yr adroddiad yn dweud: “O edrych ar brentisiaethau Lefel 2 a Lefel 3 yn unig yng Nghymru y gellir asesu cydymffurfiaeth ar eu cyfer, cafodd 14 y cant eu talu islaw’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Isafswm Cyflog Byw, yn unol â 12 y cant yn 2014.”
Sylfaen (yr holl brentisiaethau Lefel 2 a Lefel 3 sy’n cydymffurfio yng Nghymru) | % a dderbyniodd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu uwch | % a dalwyd yn llai na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol | |
16-18 mlwydd oed neu ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth | 1,246 | 92 | 8 |
19-20 mlwydd oed ac yn ail flwyddyn eu prentisiaeth | 168 | 61 | 39 |
21 – 24 mlwydd oed ac yn ail flwyddyn eu prentisiaeth | 186 | 63 | 37 |
25+ ac yn ail flwyddyn eu prentisiaeth | 97 | 72 | 28 |