Darlith Goffa Flynyddol Raymond Williams
Cyflwynwyd Darlith Goffa Flynyddol Raymond Williams y Sefydliad Dysgu a Gwaith gan yr actor ac ymgyrchydd Michael Sheen. Trefnwyd y digwyddiad mewn partneriaeth gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru ac fe’i cynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2017.
Mae Michael Sheen yn actor ac ymgyrchydd o Gymru a wnaeth rai o’r ymyriadau mwyaf craff a threiddgar mewn trafodaethau gwleidyddol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ddarlith yn ymchwilio themâu diwylliant a hunaniaeth Gymreig, eu gorffennol a’u presennol ac yn edrych eto ar y cwestiwn a ofynnodd Williams unwaith – pwy sy’n siarad dros Gymru?
Os gwnaethoch golli’r Ddarlith gallwch ei gweld ar ein tudalen YouTube drwy glicio yma neu gallwch ddilyn y ddarlith wrth iddi ddigwydd ar ein Tudalen Twitter neu drwy chwilio’r hashnod #DarlithRW2017 #RWLecture2017
Os hoffech gopi o Ddarlith Raymond Williams, a ysgrifennwyd ac a gyflwynwyd gan Michael Sheen cliciwch yma.
Dalier sylw: Bydd fersiwn Cymraeg.