Beth mae’r strategaeth cyflogadwyedd newydd yn ei olygu i fusnesau bach?

Bydd y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyflwyno Confensiwn Cyflogadwyedd a Sgiliau Cymru ar 6 Rhagfyr 2017. Mae hwn yn ddigwyddiad hanfodol i’r sector a fydd unwaith eto’n trafod yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu gwneuthurwyr polisi a darparwyr, a hefyd yn bwrw goleuni ar arloesedd ac arfer gorau. Daw’r confensiwn ar amser holbwysig. Gyda disgwyl cyhoeddiad yn y dyfodol aos ar gynllun cyflenwi cyflogadwyedd pob oedran, y Rhaglen Gwaith ac Iechyd yn symud yn nes at ei gweithredu a’r polisi prentisiaeth newydd yn cael ei gyflwyno, mae’r tirlun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau yn dal i newid.

Dros yr wythnosau nesaf cyn y confensiwn byddwn yn cyhoeddi cyfres o flogiau fydd yn trin a thrafod y materion allweddol yn ymwneud â chyflogadwyedd a sgiliau yng Nghymru. Ysgrifennwyd ein ail flog gan Josh Miles, Rheolwr Polisi Ffederasiwn Busnesau Bach. Mae’n canolbwyntio ar bwysigrwydd datblygu rôl hybu busnesau bach a lleol a hybu cynhyrchiant yng Nghymru.

Beth mae’r strategaeth cyflogadwyedd newydd yn ei olygu i fusnesau bach?

Mae rhaglen lywodraethol Llywodraeth Cymru, Symud Cymru Ymlaen, yn cynnwys ymrwymiad i ail-lunio cymorth cyflogadwyedd i unigolion sy’n barod ar gyfer swyddi ac i’r rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur. Mae hwn yn rhan bwysig o waith i lawer o unigolion yng Nghymru. Gyda graddfeydd cyflogaeth ar gynnydd ers y dirwasgiad, mae’n briodol fod Llywodraeth Cymru’n canolbwyntio ar helpu’r rhai sydd â rhwystrau rhag gweithio ac ar yr un pryd, helpu lle mae lefelau uchel o anweithgarwch economaidd.

Fodd bynnag, dim ond hanner y stori fyddai meddwl am y diwygio hwn fel rhywbeth nad yw ond yn bwysig i unigolion. Er mwyn i’r rhaglen gyflogi fod yn llwyddiannus mewn ffordd hirdymor, gynaliadwy, mae’n hanfodol ein bod yn gallu creu swyddi a thyfu cwmnïau llai Cymru ar yr un pryd.

Mae hyn yn rhywbeth y mae’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ei hun wedi ei bwysleisio wrth amlinellu ei chynlluniau ar gyfer y rhaglen newydd Cymru’n Gweithio gan ddweud; “Rydym eisiau helpu cyflogwyr i recriwtio a datblygu talent o fewn eu busnes, hybu cynhyrchiant a rhoi cyfle i bobl leol gael swyddi gwell yn nes adref

Gall cwmnïau bach chwarae rhan bwysig yn y dyhead hwn. Mae ymchwil blaenorol gan y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) i astudio effaith cwmnïau bach ar gyflogaeth yn dangos fod y rhain nid yn unig yn creu cyfran sylweddol o swyddi newydd, ond hefyd fod dechrau busnes bach neu ddod yn weithiwr mewn busnes bach neu ganolig yn gyfrifol am 88 y cant o bob symudiad o ddiweithdra i gyflogaeth sector preifat. Un o’r prif esboniadau am hyn yw bod gan gwmnïau bach brosesau cyflogi llai ffurfiol a’u bod yn cynnig cysylltiadau cyflogaeth mwy hyblyg.

Sut felly y gallwn ni wneud i Cymru’n Gweithio weithredu mewn ffordd sy’n helpu unigolion a’r cwmnïau maen nhw’n gweithio iddynt? Yn ffodus, mae gennym ddigon o brofiad diweddar gyda chwmnïau cyflogadwyedd yng Nghymru. Yr hyn sy’n fy nharo wrth i mi gyfarfod cwmnïau bach yw mor aml y maen nhw’n crybwyll eu bod wedi cyflogi eu gweithiwr cyntaf trwy Twf Swyddi Cymru neu Go Wales.

Llwyddodd y cynlluniau hyn oherwydd iddyn nhw leihau’n sylweddol y risg i gwmnïau bach sy’n cyflogi eu gweithiwr cyntaf trwy ddarparu cymorth busnes yn ogystal â chymorth ariannol. Mae’n hymchwil yn aml yn dangos cysylltiad cryf rhwng cwmnïau sy’n buddsoddi mewn cyflogi staff newydd neu ddatblygu sgiliau staff presennol (er enghraifft trwy brentisiaethau) a thwf busnesau.

Yn wir, derbyniodd un aelod o FSB Cymru a siaradodd gyda fi’n ddiweddar eu gweithiwr cyntaf trwy Twf Swyddi Cymru saith mlynedd yn ôl, gyda’r unigolyn hwnnw bellach yn gweithredu fel cyfarwyddwr cwmni mewn busnes sy’n tyfu’n gyflym ac yn cyflogi mwy na 30 o bobl.

Felly mae yna gyfle clir i’r rhaglen cyflogadwyedd gefnogi’n cwmnïau lleol. Ond mae yna hefyd gyfleoedd clir i unigolion o unrhyw oed wneud cynnydd.

I gael hyn yn iawn, mae yna bethau eraill y bydd angen inni eu gwella. Er enghraifft, yn ein hadroddiad diweddar Uchelgais Genedlaethol ar gysylltiadau rhwng busnesau ac ysgolion gwelwyd fod Gyrfa Cymru mewn sefyllfa wael i adeiladu’r partneriaethau yr oedd eu hangen ar ysgolion er mwyn cynnig profiad gwirioneddol o’r gweithdy i bobl ifanc.

Un broblem yw nad ydyn ni’n paratoi yn iawn nag yn cynghori pobl ynglŷn â’r cyfleoedd cyflogaeth sy’n bodoli o’u cwmpas. Gwyddom y bydd Cymru’n Gweithio yn bodoli ar gyfer pob oed ac yn cynnwys elfen benodol o gyflogaeth ieuenctid. Rhaid i hyn gynnwys elfennau o gyngor gyrfaoedd a chyfleoedd ar gyfer profiad gwaith. Mae angen i’r rhain gael eu cydlynu, felly mae’n hanfodol sicrhau fod gan Gyrfa Cymru yr arfau i chwarae’r rôl honno. .

Mae hefyd yn broblem i lawer o rieni pobl ifanc mewn ysgolion pan all llawer o’r rhieni eu hunain wynebu rhwystrau rhag gweithio. Yng ngwobrau Ysbrydoli! ardderchog y Sefydliad Dysgu a Gwaith 2017 cefais fy ysbrydoli wrth glywed am y gwaith dysgu oedolion a wnaeth Ysgol Gynradd Treorci trwy eu Hystafell Dysgu Teuluol.

Maen nhw’n amlwg yn gwneud gwaith rhagorol o ran chwalu rhwystrau i gyflogaeth ac rwy’n siŵr y gallen ni gryfhau’r esiampl hon a’i hailadrodd yn rhywle arall trwy sicrhau fod cyflogwyr yn cydweithio gydag ysgolion lleol a’u helpu i ddarparu cyfleoedd i wneud cynnydd.

I lawer o gyflogwyr gall nifer yr asiantaethau sy’n cymryd rhan mewn cynlluniau fod yn ddigon i godi ofn. Er enghraifft, ar yr agenda cyflogadwyedd yn unig gallai perchennog busnes bach siarad gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau, Canolfan Byd Gwaith, Gyrfa Cymru, sefydliadau unigol fel prifysgolion neu golegau yn ogystal â chynlluniau mwy lleol. Mae felly’n hanfodol ein bod yn gallu clymu hyn oll wrth ei gilydd gyda mynediad clir trwy’r gwasanaeth cymorth, Busnes Cymru.

Yn y pen draw mae angen i ni greu mwy o gyfleoedd cyflogaeth ac mae hynny’n golygu cael strategaeth neu weledigaeth economaidd yng Nghymru sydd â’r nod o dyfu’n cwmnïau lleol. Yn ddiweddar fe wnaethom nodi prinder cwmnïau o faint canolig fel problem yng Nghymru, a gallai datgloi potensial y cwmnïau hyn wneud cryn dipyn i ddarparu’r cyfleoedd sydd eu hangen arnom.

Os cawn ni hyn yn iawn, does dim rheswm pam na allai Cymru’n Gweithio helpu i chwalu’r rhwystrau sy’n atal unigolion rhag cael gwaith yng Nghymru a helpu hefyd i greu a chynnal busnesau bach llewyrchus.