‘Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol’ ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau yn Abertawe

Bydd y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyflwyno Confensiwn Cyflogadwyedd a Sgiliau Cymru ar 6 Rhagfyr 2017. Mae hwn yn ddigwyddiad hanfodol i’r sector a fydd unwaith eto’n trafod yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu gwneuthurwyr polisi a darparwyr, a hefyd yn bwrw goleuni ar arloesedd ac arfer gorau. Daw’r confensiwn ar amser holbwysig. Gyda disgwyl cyhoeddiad yn y dyfodol aos ar gynllun cyflenwi cyflogadwyedd pob oedran, y Rhaglen Gwaith ac Iechyd yn symud yn nes at ei gweithredu a’r polisi prentisiaeth newydd yn cael ei gyflwyno, mae’r tirlun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau yn dal i newid.

Dros yr wythnosau nesaf cyn y confensiwn byddwn yn cyhoeddi cyfres o flogiau fydd yn trin a thrafod y materion allweddol yn ymwneud â chyflogadwyedd a sgiliau yng Nghymru. I nodi’r cyntaf yn y gyfres, dechreuwn gyda flog gan Catherine Jenknins – Rheolwr Partneriaethau Cyflogadwyedd a Rhaglenni o Goleg Gŵyr Abertawe. Ffocws y blog hwn yw rhaglen ‘Swyddi Gwell, Dyfodol Gwell’, yn amlinellu dadansoddiad seiliedig ar dystiolaeth o’r farchnad lafur a’r angen am fodelau cefnogaeth pwrpasol i’r unigolyn i ddatblygu’r gweithlu yn Abertawe, yn neilltuol yn ymwneud â dilyniant yn y gwaith.

Pan oedden ni’n lansio’r rhaglen ‘Swyddi Gwell, Dyfodol Gwell’, roedd dau gwestiwn yn cael eu gofyn inni yn amlach nag unrhyw un arall: “Pam ydyn ni angen rhaglen cyflogadwyedd arall yn Abertawe, a beth sy’n gwneud hon yn wahanol i bob un o’r lleill?”

O’r holl gwestiynau a ofynnwyd i mi ynglŷn â’r rhaglen, y rhain, mae’n debyg oedd y rhai hawsaf i’w hateb. Gyda diweithdra yn etholaeth Dwyrain Abertawe ymhlith yr uchaf yng Nghymru, sef 8%, ac Abertawe i gyd gyda lefelau uchel o gyflogaeth rhan amser a lefel-isel, roedd yn amlwg fod angen gweithredu mwy blaengar, a fyddai’n cydnabod yr heriau oedd yn wynebu nid yn unig y rhai pellaf oddi wrth y farchnad gyflogaeth ond hefyd rhai nes at gyflogaeth, neu eisoes mewn gwaith.

Gyda rhagolygon y gall buddsoddiadau sylweddol fel Bargen Ddinesig Bae Abertawe ddod â mwy o gyfleoedd gwaith gyda sgiliau uchel a chyflogau uchel i genedlaethau’r dyfodol, i ormod o’r gweithlu presennol yn Abertawe y sefyllfa yw cyflogaeth ansicr ar gyflogau isel heb lawer o gyfleoedd i ddianc o’r fagl  cyflog gwael neu ddim cyflog o gwbl. Efallai nad yw’n syndod felly fod Abertawe’n dioddef lefelau cyson uchel o ddiweithdra tymor byr wrth i bobl frwydro i ennill a chynnal cyflogaeth werth chweil, gydag ychydig o dan 75% o’r rhai heb waith ar hyn o bryd wedi bod yn ddi-waith am lai na 12 mis.

Fodd bynnag, mae llawer o’r cymorth cyflogadwyedd presennol yn Abertawe, ac yn wir ledled Cymru, wedi tueddu i ganolbwyntio ar y rhai di-waith hirdymor a’r rhai economaidd anweithgar, tra bod y cymorth i rai sy’n nes at y farchnad waith neu oddi mewn iddi wedi bod yn llawer iawn mwy cyfyngedig ac yn canolbwyntio’n aml ar gohortau penodol iawn. Gall hynny fod oherwydd pryderon ynghylch yr hyn sy’n cael ei alw’n ‘ddi-fuddiant’. Tra bod y pryderon hyn yn ddealladwy, a bod y lleihad cyson sydd i’w groesawu mewn diweithdra ledled Cymru yn awgrymu fod angen canolbwyntio mwy ar fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd, mae’n sefyllfa’r farchnad lafur yn Abertawe – a’n profiad ni ar lawr gwlad – yn awgrymu fod yna wir angen sianelu cefnogaeth uniongyrchol i’r grwpiau hyn. Yn wir, gellid dadlau fod ein llwyddiant o ran cael mwy o rai hirdymor ddi-waith ac economaidd anweithgar i mewn i waith yn dibynnu’n drwm, neu yn ôl rhai yn dibynnu’n llwyr, ar ein gallu i greu cyfleoedd lefel-mynediad trwy gyfogi’r rhai sydd agosaf at y farchnad lafur neu oddi mewn iddi.

Efallai y dylem felly fod yn meddwl llai am bwy i’w cefnogi, a mwy am natur y cymorth a pha mor effeithio yw e o ran cwrdd ag anghenion ystod ehangach o unigolion.

Wrth gwrs, dyw hwn ddim wastad yn gwestiwn rhwydd na chyfforddus i’w ateb. Ond yn ffodus mae yna gorff cynyddol o dystiolaeth sy’n gryf o blaid newid mewn meysydd arbennig. Fe wnaethom ddefnydd helaeth o hyn wrth ddatblygu’n rhaglen ‘Swyddi Gwell, Dyfodol Gwell’.

Dangosodd y dystiolaeth hon i ni fod yna angen am gymorth mwy hyblyg wedi ei deilwrio ar gyfer unigolion, yn hytrach na’r ymyriadau generig, seiliedig ar gohortau, sydd o bosib yn haws eu cynllunio, eu hariannu a’u cyflenwi ond sy’n aml yn methu sicrhau cyflogaeth barhaol.

Dangosodd inni hefyd fod angen i’r cymorth hwnnw gael ei lunio nid yn unig ar gyfer helpu pobl i fynd yn ôl i weithio ond hefyd i’w galluogi i aros a chynyddu yn eu swyddi. Yn rhy aml, mae’r cymorth yn dod i ben y funud y mae unigolyn yn cael eu cyflogi, neu’n fuan wedyn. Ond mae llawer o bobl angen llawer mwy o gymorth dwys a pharhaus i drawsnewid yn llwyddiannus i fyd gweithio, ac i symud ymlaen yn sydyn i waith gwell. Bydd newid felly yn galw am ddileu’r hen, hen ffiniau rhwng bod yn gymwys neu beidio i dderbyn cymorth cyflogaeth.

Rhoddodd y dystiolaeth bwyslais cryf hefyd ar yr angen am ymyriad yn cyfuno agweddau cyflenwi a galw er mwyn hyrwyddo mwy o gynnydd o fewn gwaith. Gallai hynny nid yn unig fynd i’r afael a’r cynnydd mewn tlodi ymysg rhai mewn gwaith ond hefyd greu mwy o gyfleoedd ôl-lenwi ar lefel mynediad

Roedd yn amlwg i ni felly ar sail y dystiolaeth a’n dadansoddiad o’r farchnad lafur yn Abertawe fod angen i’n dull ni wneud tri pheth:

  • yn gyntaf, roedd angen iddo weithredu cylch, neu bibell, o gefnogaeth sy’n cydnabod y gyd-ddibyniaeth rhwng y ddarpariaeth cyflogadwyedd i rai i mewn neu allan o waith. Y nod fyddai cefnogi unigolion o’r ymgysylltu cyntaf i wneud cynnydd o fewn gwaith, gan helpu mwy o bobl sy’n cael eu tangyflogi i symud i fyny er mwyn creu mwy o swyddi ar lefel mynediad y gall pobl eraill eu llenwi;
  • yn ail, roedd angen darparu cymorth mwy hyblyg, unigol a pharhaus o rai’n symud i waith lefel mynediad i’w helpu i aros a chynyddu yn eu swyddi, yn enwedig pan fyddai’r swyddi’n fregus neu ansicr;
  • yn drydydd, roedd angen mabwysiadu dull deublyg, gan weithio gyda chyflogwyr a gweithwyr i sicrhau’r cyfleoedd gorau i wneud cynnydd mewn gwaith trwy gymorth mwy dwys i ddatblygu’r gweithlu a darparu cymorth ac arweiniad gyrfa yn y gwaith.

Canlyniad hyn yw’n rhaglen ‘Swyddi Gwell, Dyfodol Gwell’, a fydd yn darparu pecyn arloesol o gymorth i rai mewn gwaith neu heb waith yn Abertawe, ochr yn ochr â chymorth datblygu wedi ei dargedu ar gyfer busnesau. Wrth wneud hyn byddwn yn darparu model gwahanol iawn o gymorth cyflogadwyedd i wynebu heriau’r farchnad lafur yn Abertawe. Gobeithiwn y bydd y gwersi a ddysgwyd o’r rhaglen hon yn fuddiol i bartneriaid, rhanddeiliaid ac wrth gwrs, i’r llywodraeth wrth iddi weithredu’r  Cynllun Cyflenwi Cyflogadwyedd a’r cynnig ‘Cymru’n Gweithio’ yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.

Cewch fwy o wybodaeth am y rhaglen yn http://www.betterjobsbetterfutures.wales/cy/homepage-cy/