Addysg Bellach wrth galon gweledigaeth newydd ar gyfer addysg, sgiliau a chyflogaeth

Mae cyhoeddi’r adroddiad diweddaraf hwn gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru (PPIW) yn gyfle gwerthfawr i adlewyrchu ar y newid enfawr y bu’r sector yng Nghymru drwyddo mewn blynyddoedd diweddar a hefyd i ystyried rôl a diben addysg alwedigaethol ansawdd uchel fel rhan o’r tirlun addysg a sgiliau.

Pan es i’r ysgol, ysgol gyfun gymysg dosbarth canol yng Nghaerdydd, roedd addysg bellach yn eithaf pell o fy radar. Roedd yn rhywbeth yr aech iddo os oeddech yn a) byw mewn tref b) dim yn dod ymlaen yn neilltuol o dda gyda’r ysgol neu c) eisiau astudio min nos i gael cymwysterau newydd neu atodol. Roeddwn i’n gadarn ar lwybr addysg academaidd gonfensiynol oedd yn anochel yn arwain at brifysgol, yn anochel o leiaf cyn cyflwyno’r ffioedd uchel.

Byddai’n ymddangos fod llawer wedi newid ers hynny. Clywn yn gyson o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol am yr angen i sicrhau parch cydradd rhwng galwedigaethol ac academaidd. Fodd bynnag, gwyddom o’r ystadegau a gynhwysir yn yr adroddiad yma yn ogystal ag ymchwil mewn mannau eraill nad yw rhaglenni galwedigaethol yn neilltuol ar gyfer y rhai sy’n dymuno (neu angen) astudio’n rhan-amser yn cael eu hariannu cystal ac mae dealltwriaeth wael ohonynt sydd ymysg athrawon, myfyrwyr a chyflogwyr. Go brin y gellid dweud hynny’n gliriach nag a wnaethpwyd gan yr Athro Alison Wolf pan ddywedodd:

“Wrth i addysg ysgol barhau yn hirach a hirach mewn gwledydd datblygedig, mae’r rhan o’r addysg sy’n cysylltu’n uniongyrchol gyda’r farchnad lafur ac sydd â’r dasg o ddatblygu sgiliau o werth economaidd uniongyrchol a mesuradwy hefyd wedi newid., Yn gynyddol, mae’n cynnwys ‘oedolion’ sef pobl 19 oed neu fwy.

Yn Lloegr, ysywaeth prin y trafodir y system addysg 19+ fel endid, neu system rhyng-gloi, hyd yn oed yng nghyd-destun galw’r farchnad lafur ar gyfer sgiliau. Mae trafodaethau am addysg oedolion yn digwydd fel pe na bai addysg bellach a hyfforddiant oedolion yn bodoli: mae’r gwrthwyneb hefyd yn digwydd, er yn llai aml.”

Er yn cyfeirio’n uniongyrchol at Loegr, gellid dweud yr un peth am Gymru. Nid ydym wedi rhoi digon o sylw i rôl a diben addysg alwedigaethol, sut olwg sydd ar lwyddiant a sut i ddatblygu ‘ecosystem sgiliau’ sy’n diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr, ein cymunedau lleol a’n heconomi a’n cymdeithas yn gyffredinol.

Felly mae’r adroddiad hwn yn gyfle a groesewir i ystyried. Gan dynnu ar dystiolaeth ryngwladol, mae’n amlinellu rhai o’r egwyddorion sefydlu allweddol y dylem adeiladu cynnig addysg alwedigaethol ansawdd uchel arnynt fel rhan o ‘ecosystem’ ehangach addysg, sgiliau a chyflogaeth. Mae’n iawn tynnu sylw at yr angen am gysylltedd uchel rhwng colegau a chyflogwyr, ond hefyd gydag addysg uwch, dysgu seiliedig ar waith, sgiliau oedolion a dysgwyr eu hunain. Mae’n ddefnyddiol iawn yn tanlinellu angen hollbwysig i gynllunio’n fwy systematig (ac ariannu) hyfforddiant dechreuol ansawdd uchel a datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer staff sy’n gweithio mewn addysg alwedigaethol (ac nid dim ond athrawon) – rhywbeth na roddwyd fawr o ystyriaeth iddo mewn blynyddoedd diweddar. Mae’n gwneud awgrymiadau ymarferol am le mae angen palu ychydig yn ddyfnach – i sicrhau fod ysgolion a cholegau yn cydweithio a heb fod yn dyblygu gwaith, rhoi anghenion dysgwyr (a chyflogwyr) o flaen y llinell isaf sefydliadol. Mae hefyd yn codi’r angen am fwy o ymchwil i addysg alwedigaethol.

Felly beth sydd wedi newid mewn gwirionedd yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf y bûm yn gweithio mewn addysg ôl-orfodol a hyfforddiant? Y peth cyntaf yw y gwelais drosof fy hun natur drawsnewidiol addysg bellach pan fo ar ei orau. Rwyf wedi colli cyfrif ar nifer y dysgwyr, tiwtoriaid ac athrawon ysbrydoledig sydd wedi newid eu bywyd eu hunain neu fywydau dysgwyr drwy addysg bellach.

Fodd bynnag, tybed a yw’r canfyddiad o addysg bellach wedi newid cymaint ar gyfer y bobl ifanc hynny yn fy hen ysgol gyfun? A yw llwybr galwedigaethol mewn addysg uwch yn cael ei ystyried mewn gwirionedd fel addysg ansawdd uchel gydag adenilliad economaidd a chymdeithasol da, neu a yw’n dal i fodoli ar gyfer ‘eraill’ oedd efallai wedi cael profiad llai cadarnhaol o’u haddysg ysgol ddechreuol, ar gyfer rhai sydd eisiau ailhyfforddi neu’r rhai sy’n dymuno cael cymwysterau atodol (fel arfer yn astudio’n rhan amser). Ac os felly, a yw hyn yn beth mor wael?

Wrth ddarllen yr adroddiad yma, ac ysgrifennu’r blog byr yma, cefais fy nharo gan y ffaith fod llawer o gwestiynau’n dal heb ei ateb pan ddaw i rôl tirlun addysg bellaf yng Nghymru. Yr hyn y gwn yw bod hon yn drafodaeth y mae angen brys i ni ei chael os ydym i drin “anweledigrwydd addysg bellach” y sonodd Alison Wolf amdano. Ymhellach rydym angen cyfeiriad strategol cliriach ar gyfer addysg, sgiliau a chyflogaeth gyda’i gilydd, un sy’n torri ar draws pob un (neu’r rhan fwyaf) o adrannau’r Llywodraeth. Mae’n rhaid i hon fod yn flaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yn dilyn etholiadau mis Mai 2016.