Diwrnod Llythrennedd y Byd 2016

Yng Nghymru, mae bron i un plentyn o bob tri yn byw mewn tlodi ac mae lefelau llythrennedd oedolion yn is nag yn Lloegr. Mae tystiolaeth gref sy’n awgrymu mai’r ffordd orau i gefnogi plant yw gweithio gyda’r teulu cyfan trwy ddysgu fel teulu. Mae rhai enghreifftiau ardderchog ble mae hyn yn digwydd yng Nghymru, ond ar y cyfan, cymysg iawn yw’r darlun.

Dangosodd arolwg OECD yn Lloegr a Gogledd Iwerddon (2013) fod oedolion oedd â rhieni gyda lefelau addysg isel wyth gwaith yn fwy tebygol o fod â medrusrwydd isel mewn llythrennedd nag oedolion oedd â rhieni gyda lefelau uwch o addysg. Nid yw’r stori’n wahanol yng Nghymru, er bod data yn brin. Wnaeth Cymru ddim cymryd rhan yn yr arolwg rhyngwladol (PIAAC – arolwg sgiliau oedolion sy’n cyfateb i PISA).

Mae gan ddysgu fel teulu ran hanfodol i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r anghyfartaleddau hyn. Mae dysgu fel teulu yn codi cyraeddiadau plant ac mae gan ysgolion swyddogaeth bwysig i’w chwarae yma – mae’r  ysgolion gorau bob amser yn cael rhieni i gyfranogi. Mae ymchwil yn dangos y gallai dysgu fel teulu arwain at gynnydd o gymaint â 15 pwynt canran yn lefelau datblygiad cyffredinol plant o grwpiau difreintiedig.

Mae yna hefyd rai enghreifftiau rhagorol o brosiectau dysgu fel teulu yma yng Nghymru. Mae Ysgol Gynradd Gymunedol  Monkton Priory ar gyrion Penfro wedi cofleidio dysgu fel teulu yn llwyr ac yn darparu cyrsiau ar gyfer rheini a phobl leol yn yr ysgol. (fideo yma)

Mae’r ysgol yn dod â thiwtoriaid allanol o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i mewn i ddarparu cyrsiau perthnasol i gefnogi rhieni sydd allan o waith neu sydd mewn swyddi ar gyflog isel. Mae’r gwaith yn cael ei dargedu at deuluoedd o gefndiroedd cymdeithasol ac economaidd ddifreintiedig.

Ym mlwyddyn gyntaf y prosiect mynychodd mwy na 500 o bobl ystod o gyrsiau ac roedd 84 o fyfyrwyr yn astudio am raddau. Mae  pennaeth yr ysgol, Shelley Morris, yn credu mai’r dull dysgu fel teulu sy’n gyfrifol am godi lefelau cyraeddiadau’r plant. Bu’r prosiect yn gymaint o lwyddiant fel bod y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James AC, wedi trefnu i fynd i weld y prosiect ei hun ym mis Tachwedd.

Rydym wedi gweld yn uniongyrchol sut y gellir dod ag unigolion difreintiedig yn ôl at ddysgu trwy eu teuluoedd, gan wella’u hyder i fynd ati i ddysgu a chael eu cyflogi trwy wella eu hiechyd a’u lles a’u hymwneud cynyddol â’u cymdeithas a’u cymuned. Credwn y dylai adrannau llywodraeth edrych ar brosiectau fel hyn fel ffordd effeithiol o fynd i’r afael  ag amddifadedd cymdeithasol ac economaidd..

Gwyddom fod dysgu fel teulu yn lleihau cost cefnogi teuluoedd bregus. Mae’n sefydlu newidiadau o ran agweddau, ymddygiad, dealltwriaeth a sgiliau o fewn teuluoedd. Mae tystiolaeth o’r Unol Daleithiau yn dangos fod pob doler sy’n cael ei gwario yno ar ddysgu fel teulu yn dod â 12 doler yn ôl – mae’n anffodus nad oes tystiolaeth debyg yng Nghymru.

Mae dysgu fel teulu yn ymyriad untro, yn cael ei gyflwyno mewn ystod o ffyrdd ac mewn ystod o leoliadau, sydd â chanlyniadau niferus i oedolion a phlant, i deuluoedd ac i gymunedau. Efallai nad yw’n ffitio’n dwt o fewn un adran lywodraeth neu gyfrifoldeb gweinidog, ond gallai newid bywydau cenhedlaeth gyfan. Ffolineb fyddai inni  golli’r fath gyfle.

Mae’n hymchwil wedi dangos yn gyson fod dysgu fel teulu yn gweithio. Ni yn unig mae’n sicrhau deilliannau gwell i blant a’u rhieni, ond mae hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar ystod eang o raglenni polisi economaidd a chymdeithasol. Mae’n gwaith gyda llywodraethwyr ysgolion i ddangos gwerth dysgu fel teulu yn dechrau annog ysgolion i fabwysiadu dulliau dysgu fel teulu.

Mae Estyn hefyd wedi cyfeirio ar bŵer dysgu fel teulu ond ar hyn o bryd nid yw dysgu fel teulu yn cael ei gydlynu’n effeithio o’r brig. Yn ein barn ni:

1.    Dylai dysgu fel teulu fod yn rhan greiddiol o strategaethau ysgolion i godi cyraeddiadau plant ac i leihau’r bwlch rhwng y cyflawnwyr isaf ac uchaf. Gellir cyflawni hyn trwy wneud defnydd o’r grantiau amddifadedd disgyblion y mae ysgolion yn eu derbyn, ynghyd â chyllidebau Cymunedau’n Gyntaf.
2.    Dylai dysgu fel teulu fod yn elfen allweddol o strategaethau dysgu a sgiliau oedolion i ennyn diddordeb y rhai pellaf oddi wrth y farchnad lafur a gwella cyflogadwyedd, yn enwedig trwy ddarpariaeth llythrennedd a rhifedd i’r teulu.
3.    Dylai pob plentyn gael yr hawl i fod yn rhan o deulu sy’n dysgu. Mae llawer o blant yn tyfu mewn teuluoedd a all gefnogi eu dysgu, ond nid pob un. Dylai cyrff cyhoeddus dargedu cefnogaeth i helpu’r teuluoedd hyn.
4.    Dylai adrannau allweddol Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol gynnwys dysgu fel teulu o fewn eu polisïau a’u strategaethau er mwyn sicrhau canlyniadau ar draws adrannau. Mae’n ddull a fydd yn cael effaith parhaol ar genedlaethau’r dyfodol.

Mae gwella cyfleoedd bywyd a chanlyniadau addysgol ar gyfer plant yn bwysig inni i gyd. Ni all ysgolion yn unig gyflawni’r newid cenedliadol angenrheidiol. Tra bod llawer o blant yn mynd adref i gartrefi ble mae rhieni a gofalwyr yn cael trafferth gyda llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol, neu ble nad yw dysg yn cael ei werthfawrogi, bydd gormod o blant yn colli’r manteision enfawr yn gall addysg ei roi. Mae dysgu triwyr teulu yn gweithio ac fe ddylem ei gofleidio.