Prosiect Adolygiad Gyrfa Canol-Bywyd
Mae Sefydliad Dysgu a Gwaith yn falch i gyhoeddi dyfarniad cyllid o brosiect Cynhwysiant Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a gyllidir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop i gyflwyno prosiect Adolygiad Gyrfa Canol-Bywyd. Yn dechrau ym mis Ionawr, bydd y prosiect yn cynnig cyfle i unigolion yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr sydd ar gam canol bywyd (54+) ac yn economaidd anweithgar i bwyso a mesur, adolygu eu hopsiynau a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Mewn partneriaeth gyda Gyrfa Cymru a’r Brifysgol Agored yng Nghymru, byddwn yn cefnogi a datblygu 45 o unigolion i:
- Gynnal chwiliad swydd a sgiliau cyflogadwyedd
- Ennill cymwysterau a sgiliau a gydnabyddir yn genedlaethol a sgiliau i’w gwneud yn fwy cyflogadwy
- Symud ymlaen i addysg bellach neu hyfforddiant i’w gwneud yn fwy cyflogadwy
- Sicrhau cyflogaeth gynaliadwy lawn-amser
Fodd bynnag, nid cwestiynau cysylltiedig â gwaith yw unig nodwedd Adolygiad Gyrfa Canol Bywyd. Mae unigolion sy’n dymuno ymuno â’r farchnad lafur am y tro cyntaf, ail-ymuno ar ôl colli swydd neu gyfnod maith allan o waith yn wynebu ystod o faterion sy’n effeithio ar eu penderfyniadau canol bywyd. Gallai’r pryderon fod yn ariannol, yn gysylltiedig ag iechyd, yr angen i weithio’n rhan-amser neu oherwydd cyfrifoldebau gofalu ychwanegol ar gyfer rhieni neu bartneriaid oedrannus.
Gall yr Adolygiad Canol Bywyd helpu unigolion neu grwpiau i:
- Asesu eu blaenoriaethau
- Adolygu’r materion bywyd sy’n eu hwynebu
- Rheoli eu gyrfaoedd pan fyddant yn hŷn
- Datblygu cynllun gweithredu
- Dynodi cyrsiau datblygu sgiliau cyn-cyflogaeth perthnasol
- Dynodi cyfleoedd cyflogaeth
Nid oes diffiniad o un model ‘delfrydol’ o Adolygiad Gyrfa Canol Bywyd, er y deellir y dylai gael ei wreiddio mewn dull holistig sy’n canolbwyntio ar y person i’r hyn sy’n effeithio ar fywyd yr unigolyn.
Bydd yr Adolygiad Gyrfa Canol Bywyd yn cynnig cyfle i bobl hŷn adolygu eu sefyllfa bresennol ac opsiynau mewn amgylchedd proffesiynol ond anfygythiol a datblygu cynllun ar gyfer y dyfodol, lle bydd gan y rhan fwyaf 20 mlynedd o fywyd gwaith cynhyrchiol ar ôl.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â: [email protected]