Ailfeddwl y Rhaglen Waith yng Nghymru

Mae Sefydliad Polisi Cyhoeddus  Cymru (PPIW) wedi cyhoeddi adroddiad a baratowyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith (gynt NIACE a’r Ganolfan Cynhwysiant Economaidd a Chymdeithasol)

Gofynnodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg i PPIW roi cyngor annibynnol ar sut y gellid gweithredu’r Rhaglen Waith yn wahanol yng Nghymru yn y dyfodol. Mae’r PPIW wedi gweithio’n agos gyda Dave Simmonds (Cyfarwyddwr, Sefydliad Dysgu a Gwaith) i astudio llenyddiaeth a thystiolaeth yn y maes a rhoi argymhellion ar gyfer cyflwyno’r Rhaglen Waith yng Nghymru yn y tymor byr a’r tymor hwy.

Canfu’r adroddiad y bu perfformiad y Rhaglen Waith yng Nghymru yn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig, er ei fod wedi gwella. Mae hefyd nodweddion penodol sydd angen eu hystyried wrth weithredu’r Rhaglen Waith yng Nghymru megis y gyfran uwch o rai sy’n hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yng Nghymru nag yn Lloegr a chyfran uwch o rai sy’n anweithgar am resymau iechyd hirdymor (27.5% o gymharu gyda 21%). Mae’r gormodedd a ragwelir o gweithwyr sgil isel yn y dyfodol uchel a phrinder pobl gyda chymwysterau uchel yn golygu hefyd fod yn rhaid i’r Rhaglen Waith yn y dyfodol yng Nghymru gydbwyso hyfforddiant, chwilio am swyddi a mesurau cyflogadwyedd cyffredinol. Mae’r adroddiad felly’n argymell fod angen i Lywodraeth Cymru arwain ar ddadansoddi, dylunio a chomisiynu i sicrhau y caiff y rhaglen ei theilwra i anghenion Cymru. Yn y tymor byr mae hyn yn golygu y dylai Llywodraeth Cymru ddod yn gyfrifol am gomisiynu a rheoli’r Rhaglen Waith ac Iechyd yng Nghymru, gan weithio gyda’r Ganolfan Byd Gwaith yng Nghymru. Yn y tymor hwy mae’r adroddiad yn dadlau y dylid datganoli’r gyllideb cymorth cyflogaeth i Gymru.

Dywedodd Cerys Furlong, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith:

“Mae hwn yn ddarn pwysig o waith. Er mwyn sicrhau llwyddiant hir-dymor yn y maes yma mae angen gweledigaeth drawsbynciol cliriach ar gyfer Cyflogaeth, Dysgu a Sgiliau yng Nghymru. Mae’n rhaid i’r strategaeth yma fod yn flaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiadau, a dylai roi fframwaith ar gyfer ymyriadau newydd i drin bod heb waith yn yr hirdymor a gosod rhaglen a gynlluniwyd a chomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn gwella canlyniadau gwaith ar gyfer pobl heb waith. Wrth ochr y strategaeth yma mae angen i Lywodraeth Cymru ddynodi cronfeydd a gweithgareddau presennol y gellir eu hintegreiddio neu eu halinio gyda’r Rhaglen Waith. Er mwyn cyflawni’r holl nodau hyn yn effeithlon credwn y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau angen hyblygrwydd ym manylebion y Rhaglen Waith a Iechyd yng Nghymru.”

Rethinking the work programme in wales(2)