Consensus builds around the skills challenges facing Wales

Adeiladu consensws ar yr heriau sgiliau sy’n wynebu Cymru

Dengys cyhoeddiadau’r wythnos hon gan y Ceidwadwyr Cymreig a hefyd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig fod consensws yn cynyddu o amgylch yr heriau sgiliau sy’n wynebu Cymru. Amlinellir yr heriau hyn yn nogfen NIACE Cymru, “Yr her ôl-16” a’r cynigion a gynigir yn ein maniffesto.

Cynigiodd y Ceidwadwyr Cymreig godi’r cyfyngiadau oedran ar gynllun creu swyddi arweiniol Twf Swyddi Cymru, os byddant yn ennill grym yn yr etholiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai 2016.

Mae’r cynllun yn helpu cwmnïau i gyflogi pobl ifanc 16-24 oed am chwe mis drwy dalu am gost yr isafswm cyflog. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn anelu i ddisodli hyn gyda chynllun o’r enw ‘Teithiau i Waith’, a fyddai ar agor i bob oedran, gyda swyddi’n parhau am flwyddyn.

Mae’r cyhoeddiad yn rhan o set o bolisïau gan y Ceidwadwyr Cymreig a elwir yn Dyfodol Cryfach Cymru.

Dywedodd Julie James, Dirprwy Weinidog Sgiliau ei fod yn “gymeradwyaeth gref” o Twf Swyddi Cymru, gan ddweud fod cynllun newydd ar y gweill ar gyfer pob oedolyn. Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau hefyd gynlluniau i gyflwyno cynllun newydd – Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth Cymru – ym mis Ebrill 2016 a fyddai’n agored i bob oedolyn sy’n edrych am waith.

Ym mis Gorffennaf, anogodd y Pwyllgor Busnes a Menter weinidogion i ystyried cynllun tebyg ar gyfer pobl dros 50.

Dywedodd Cerys Furlong, Cyfarwyddwr NIACE Cymru:

“Mae’n wych gweld yr holl bleidiau yng Nghymru yn cymryd rhan yn y materion allweddol hyn ar gyfer dyfodol economi Cymru. Mae NIACE yn credu fod cyllid cytbwys yn bwysig er budd pob dysgwr. Er bod hyn yn symudiad cadarnhaol iawn, teimlwn hefyd y dylai Llywodraeth Cymru fynd gam ymhellach a defnyddio eu pwerau deddfu i newid deddfwriaeth os oes angen rhoi holl addysg oedolion ar yr un sail statudol er mwyn sicrhau dull tecach a mwy cytbwys sydd o fudd i bob dysgwr.”

Mae’r boblogaeh yn dod yn hŷn ac yn fwy amrywiol yn ddiwylliannol, ac mae unigolion yn profi bywydau mwy cymhleth ac anos eu rhagweld na’u rhieni. Mae gan y newidiadau hyn i gyd oblygiadau ar gyfer yr hyn mae pobl ei angen ac eisiau ei ddysgu a phryd a sut y dymunant wneud hynny. (McNair, 2009: 6)[1]

Gyda newidiadau’n parhau’n gyflym, bydd unigolion yn gweithio yn hirach ac yn newid swyddi’n amlach. Mae mynediad i sgiliau a dysgu felly yn hanfodol i bobl aros yn iach, cynhyrchiol ac yn hapus mewn gwaith a hefyd mewn ymddeoliad. Mae’n rhaid i lywodraethau ddatblygu polisïau creadigol a hyblyg i hyrwyddo addysg oedolion.

Yn yr wythnosau nesaf bydd y Cynulliad hefyd yn trafod prentisiaethau a chynnig Trysorlys Ei Mawrhydi am lefi hyfforddiant yn fwy eang.

“Fel rhan o’n maniffesto, byddem hefyd yn hoffi gweld prentisiaethau ar gael yn eang i bob oedolyn, nid dim ond ar gyfer rhai dan 25 ac ymrwymiad i neilltuo cyllid symiau canlyniadol Barnett o lefi hyfforddiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig – fydd yn weithredol i fusnesau Cymru – i’w wario ar gyflwyno prentisiaethau i Gymru”

I weld pob un o 12 blaenoriaeth NIACE Cymru ar gyfer dysgu gydol oes, edrychwch ar y maniffesto “Sgiliau ar gyfer Ffyniant – gweledigaeth ar gyfer 2020” drwy glicio yma

 

[1] S. McNair, Demography and Lifelong Learning, IFLL Papur Thematig 1, 2009