Agor addysg

Mae agoredrwydd ym mhobman mewn addysg y dyddiau hyn: tua diwedd  2011 cofrestrodd mwy na 160,000 o ddysgwyr ar gyfer cwrs mewn Deallusrwydd Artiffisial; yn 2012 yn y Deyrnas Unedig dilynodd y Llywodraeth gyrff cenedlaethol eraill yn yr Unol Daleithiau a Canada trwy gyhoeddi polisi yn mynnu fod pob erthygl oedd yn deillio o ymchwil y talwyd amdano trwy arian cyhoeddus yn cael ei roi ar gael am ddim mewn cyhoeddiadau mynediad agored; aeth lawrlwythiadau safle iTunes U Apple, sy’n darparu cynnwys addysgol am ddim, heibio’r biliwn yn 2013; cyhoeddodd British Columbia bolisi yn 2012 o ddarparu gwerslyfrau agored, am ddim, ar gyfer y 40 cwrs mwyaf poblogaidd; arweiniodd arweinwyr gwledydd G8 gytundeb ar ddata agored ym Mehefin 2013, yn datgan y byddai pob data llywodraeth yn cael ei ryddhau’n agored yn ddiofyn.

Wedi blynyddoedd o fod o ddiddordeb arbenigol neu ymylol, mae agwedd agored mewn addysg wedi symud i’r brif ffrwd o fewn y degawd diwethaf. Er enghraifft, mae Adroddiad Finch yn y DU yn dweud y dylai allbynnau pob ymchwil a gyllidwyd gan arian cyhoeddus fod ar gael yn agored. Y ddadl yw bod y cyhoedd wedi talu am yr ymchwil hwn (trwy drethi i’r cynghorau ariannu), ac felly fe ddylai’r allbynnau, ar ffurf cyhoeddiadau, fod ar gael i bawb. Dyma’r mudiad mynediad agored, ac mae’r un agwedd yn bodoli gyda’r data sy’n gynnyrch ymchwil o’r fath.

Mae sefydliadau fel y Sefydliad Gwybodaeth Agored (Open Knowledge Foundation) hefyd yn dadlau dros ryddhau data agored sy’n ymwneud â Llywodraeth a masnach, gan weld agoredrwydd yn allwedd i atebolrwydd a dinasyddiaeth sy’n ymgysylltu. Maen nhw’n gweld agoredrwydd yn hawl, gan ddatgan, “Rydyn ni eisiau gweld gwybodaeth agored yn gysyniad prif ffrwd, yn rhan mor naturiol a phwysig i’n bywydau beunyddiol ag y mae gwyrdd heddiw.”

Mae ymestyn agoredrwydd y tu hwnt i’r cylchoedd gwaith hyn yn syniad peryglus. Gellid dweud fod yr un dadleuon yn berthnasol i ymchwil yn berthnasol hefyd i addysg. Yn union fel y mae prifysgolion yn cael mandad i ryddhau allbynnau ymchwil, yn yr un modd fe allent gael gorchymyn i ryddhau cynnwys dysgu. Mae yna eisoes symudiad byd-eang dros ryddhau cynnwys o’r fath, sy’n cael eu hadnabod fel adnoddau addysgol agored (OER). Mae prifysgolion fel y Brifysgol Agored ac MIT wedi gwneud rhyddhau cynnwys yn rhan o’u harfer cyffredin. Ond mae prosiectau o’r fath yn aml yn cael eu hariannu’n allanol, ac yn wirfoddol. Syniad peryglus fyddai ei wneud yn orfodol. Byddai prifysgolion yn gorfod rhyddhau eu meysydd llafur, nodiadau, cyflwyniadau a fideos o dan drwydded agored.

Mae manteision gwneud hyn yn debyg i’r rhai a gynigir ar gyfer mynediad agored. Maen nhw’n galluogi’r boblogaeth gyffredinol i gyrchu ystod eang o adnoddau, a gan fod y defnydd hwnnw gyda thrwydded agored, gellir ei ail-becynnu, ei gymysgu, ei addasu a’i ailfersiynu mewn ffyrdd annisgwyl. Mae’r agoredrwydd yn arwain at fath newydd o economi gwybodaeth.

Yr anhawster wrth ddefnyddio’r mandad mynediad agored gyda chynnwys dysgu yw y gallai danseilio model busnes prifysgolion yn sylfaenol. Nid yw hyn yn sicr o gwbl, gan fod y cynnwys hwn heb gefnogaeth a heb y profiad prifysgol sy’n gysylltiedig ag astudiaeth lawn. Yn wir, mae rhai prifysgolion wedi darganfod fod rhyddhau cynnwys yn arwain at fwy o alw am astudio ffurfiol. Byddai hefyd yn gostus, felly byddai angen i brifysgolion gael eu digolledu. Fodd bynnag, mae’n newid y ddirnadaeth o brifysgolion fel ‘tyrrau ifori’ i sefydliadau sy’n cynhyrchu gwybodaeth gyhoeddus, er lles i’r gymdeithas gyfan ac nid ddim ond i’r rhai sy’n eu mynychu’n uniongyrchol ac yn talu ffioedd.