Merched i STEM

Mae Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Rosemary Butler AC, wedi codi pwnc rhwystrau i fenywod mewn bywyd cyhoeddus a phroffesiynol i frig yr agenda gwleidyddol yng Nghymru, fel rhan o’i #POWiPL “Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus”. Bydd yn traddodi’r brif araith yn y gynhadledd “Merched i STEM” ar 27 Chwefror. Yma mae’r Fonesig Rosemary yn archwilio’r rhwystrau sy’n wynebu menywod mewn pynciau STEM.

 

Petai yna ddeg o bobl mewn ystafell, a chithau’n gofyn iddyn nhw pwy yw Albert Einstein, neu Isaac Newton, byddai canran uchel yn gallu dweud wrthych eu bod ymhlith gwyddonwyr enwocaf a mwyaf y byd.

Dyfalu ar fy rhan i yw hyn wrth gwrs, ond rwy’n amau y byddai’r farn yn cael ei chadarnhau gan ymchwil, petai’r ymchwil hwnnw’n cael ei gynnal.

Ond pe baen ni’n gofyn i’r un deg o bobl pwy oedd Marie Curie, neu a oedden nhw’n adnabod Barbara McClintock neu Maria Myer, yna rwy’n amau y byddai’r ffactor adnabyddiaeth yn llawer is na phe baen nhw’n ddynion.

Roedden nhw i gyd yn arweinyddion yn eu meysydd gwyddonol eu hunain, ac i gyd yn enillwyr Gwobrau Nobel.

A phan edrychwn ni ar bersonoliaethau gwyddonol ar y teledu, fe allech gael rhai pobl sy’n adnabod Doctor Alice Roberts neu Miranda Krestovnikoff, ond eithriadau yw’r rhain, gyda llawer o raglenni teledu gwyddonol yn cael eu cyflwyno gan wyddonwyr, archeolegwyr neu beirianwyr gwryw.

Rwy’n defnyddio’r enghreifftiau hyn i dynnu sylw at y mater ehangach o sut y mae menywod yn cael eu gweld o’r tu mewn a’r tu allan i’r gymuned wyddonol, a sut y maen nhw’n wynebu rhwystrau i’w gyrfaoedd, a’r swyddi uchaf yn benodol, yn y sectorau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).

Mae’r ystadegau’n cyfleu darlun llwm iawn. Mae ymchwil gan Menywod mewn Gwyddoniaeth Peirianneg a Thechnoleg (WISE) yn dangos mai dim ond 13 y cant o swyddi STEM yn y gweithle sy’n cael eu llenwi gan fenywod.

Dangosodd yr ymchwil hefyd:

  • Rhith yw nad yw merched a menywod yn dewis cymwysterau STEM;
  • Mae mwy o ferched nag o fechgyn ar y cyfan yn dewis cymwysterau STEM;
  • Mae merched yn perfformio’n well na bechgyn mewn cymwysterau STEM ar bob lefel;
  • Y gwir yw NAD yw merched yn dewis ffiseg ar ôl 16/17 ac maen nhw’n colli neu’n gwrthod y cyfle i ddewis peirianneg ar ôl 18; ac
  • Nid yw’r canran o ferched yn dewis ffiseg wedi newid ers mwy na 30 mlynedd, sy’n aros yn ddim ond 20% o’r rhai’n gwneud Safon Uwch a 21% o’r rhai’n gwneud gradd mewn ffiseg.

Mae’n amlwg fod yna lawer o fenywod sy’n ymddiddori mewn pynciau STEM, ac felly gellid tybio â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn eu dewis faes.

Pam felly mai dim ond 13 o’r gweithlu yn y sector STEM sy’n fenywod? Pa bryd mae gwyddoniaeth yn eu colli, a beth yw’r rhesymau am y llithriad?

Dyma’r cwestiynau y bydd y gynhadledd “Merched i STEM” yn eu hystyried.

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu’n glir fod merched yn cefnu ar bynciau STEM ar ôl cyrraedd Safon Uwch. Yn enwedig gyda phynciau fel Ffiseg; felly gallai hwnnw fod yn adeg dda i ddechrau.

A ddylid hyrwyddo modelau rôl mor gynnar â’r ysgol gynradd, neu mewn pwyntiau allweddol fel Blwyddyn 9 neu Flwyddyn 11 pan fydd merched ifanc yn dewis eu pynciau TGAU neu Safon Uwch? Os oes rhy ychydig o ferched yn ystyried pynciau STEM fel dewis go iawn iddyn nhw, byddwn yn parhau i gael prinder sgiliau, ac os nad oes gennym weithlu amrywiol mewn STEM mae’n mantais gystadleuol yn colli hwb enfawr. .

Mae’r rhain yn faterion a chwestiynau yr wyf eisiau eu gwthio i frig ar agenda ac fe fyddwn i’n annog pob sector i dderbyn yr her, boed hynny’n athrawon neu wyddonwyr yn gweithio y tu allan i’r sectorau addysg i edrych sut y gallen nhw helpu i ddarparu mentora ar gyfer merched ifanc.