AMSEROEDD PERYGLUS: dysgu eu rheoli

AMSEROEDD PERYGLUS: dysgu eu rheoli

Darlith Goffa Raymond Williams, Caerdydd, Chwefror 2015

 

Mae’r ddarlith hon yn fath o goffadwriaeth ddwbl. Yn ffurfiol mae’n coffau Raymond Williams, ac fe ddof ato yn fuan. Rwyf hefyd, ar fy liwt fy hun ond yn dderbyniol, gobeithio, wedi ysgrifennu er cof am Syr David Watson, a fu farw’n gynharach y mis hwn. Ymysg ei gyfraniadau niferus eraill i addysg, cadeiriodd David Ymchwiliad NIACE  i Ddyfodol Dysgu Gydol Oes. Roedd ef a minnau yn gyd awduron ei adroddiad terfynol, Learning Through Life (LTL), a dadansoddiad ac argymhellion LTL yw ffocws rhan addysg oedolion y ddarlith hon. Bu farw’n sydyn ac yn gynamserol iawn, felly gobeithio y maddeuwch yr ychwanegiad. Rwy’n bur siŵr y buasai Raymond Williams wedi bod yn fodlon iawn rhannu’n llwyfan.

Fel y mae’n digwydd, mae gen i gysylltiad personol gyda RW.  Bu fy nhad yn gweithio i gwmni cyhoeddi bach yn Llundain. Yn ei flynyddoedd olaf yno fe gynhyrchodd gyfres o’r enw New Thinkers Library, a RW oedd ei olygydd cyffredinol. Does gen i ddim cof i mi ei gyfarfod yn bersonol ond mae’n gyd-ddigwyddiad braf imi gael fy hun, gryn 60 mlynedd yn ddiweddarach, yn rhoi darlith er cof amdano.

Aeth y gwahoddiad i draddodi’r ddarlith â fi yn ôl at ystod ryfeddol o waith RW – yn enwedig at Culture and Society, ond hefyd at ddarnau eraill, gan gynnwys y ddarlith goffa a roddodd ei hun i gofio am WD Thomas. Nid wyf wedi dilyn y trywydd WDT, rhag ofn imi ddarganfod ei fod yntau hefyd wedi rhoi darlith goffa ddiddorol ac i mi fy nghael fy hun yn rhan o ryw atchweliad coffadwriaethol tragwyddol. (Wrth imi ysgrifennu hyn clywais ar y radio ddyfyniad gan PG Wodehouse am y cof:  “Memories are like mulligatawny soup in a cheap restaurant; they are both best left unstirred.”    Gobeithio fod darlithiodd coffa yn cael eu heithrio o’r rheol honno. )

Mae ffocws canolog y ddarlith hon ar ddysgu gydol oes: i ble’r ydym wedi cyrraedd, a beth yw’r rhagolygon. Fe wnaf hynny’n uniongyrchol trwy ystyried gwaith yr LTL gryn bum mlynedd ar ôl iddo gael ei gyhoeddi. Ond  rwyf eisiau defnyddio’r cyfle i roi’r ffrâm dipyn ehangach yma, a symbylwyd ymysg pethau eraill wrth imi ailddarllen gwaith RW.  Rwyf wedi dewis siarad am ‘reoli amser’.  Y ddolen ganolog i addysg oedolion yw’r cysylltiad yn syml rhwng dysgu a rheoli – y gallu i ymarfer rhyw radd o reolaeth unigolion dros eu bywydau eu hunain, a’r gallu i ymuno ag eraill mewn ffurfio penderfyniadau dros ein cydamgylchedd, yn yr ystyr ehangaf.

Mae amser yn ganolog i’r ymdeimlad hwn o reolaeth. Byddaf yn dadlau ar ddiwedd y ddarlith hon fod hyn yn ymestyn i’r hyn y gellir ei weld fel y penderfyniad terfynol, pryd a pham y byddwn yn marw – nid yn unig ennyd y farwolaeth, ond yr amser yn arwain ati. Fy syniad peryglus i yw bod modd i ni, a bod yn rhaid i ni, ymestyn ein galluoedd yn y cyswllt hwnnw, trwy’r hyn y byddaf yn ei alw’n ‘gwricwlwm marwoldeb’, ac nad ydym ond prin wedi dechrau mynd i’r afael â’r materion y mae’n eu codi. Ond cyn i mi ddod at hynny, byddaf yn canolbwyntio ar y newidiadau sy’n digwydd ym myd gwaith, ac yn benodol ar amser mewn gwaith.

 

Amser gweithio a dysgu

Mae yna dri newid perthnasol yn y ffordd y mae newidiadau allweddol yn ein patrwm oriau gweithio yn effeithio ar ein bywydau.  Y cyntaf yw’r ymestyniad yn hyd ein bywyd gwaith. Cafodd proffwydoliaeth Keynes y byddai’r wythnos waith yn dod i lawr i 15 awr ei gwneud ymhell cyn i Williams fod yn ysgrifennu, ond dyna oedd meddylfryd cyffredinol y rhan fwyaf o bobl yn y degawdau ar ôl y rhyfel. ‘Diwydiant’, rhaid inni gofio, oedd un o gysyniadau canolog casgliad Williams o ’Keywords’; ac eisoes y disgwyliad cyffredinol oedd y byddai’r cyfnod gweithio yn crebachu, yn hyd y diwrnod gwaith a’r oedran ymddeol arferol. Dylwn bwysleisio mai siarad yr ydym am batrymau cryf ymysg dynion, h.y. gwaith amser llawn a chyflogaeth ddi-dor. Rwyf wedi bod yn dadlau am beth amser, o dan y pennawd y byddwn yn ei alw’n Egwyddor Paula [1], mai hwn yw’r norm ag iddo afael cryf ar ein hagweddau a’n polisïau, sy’n niweidiol i’r ffordd y defnyddiwn ein sgiliau a’n galluoedd – yn enwedig rhai merched. Mae Egwyddor Paula yn dweud fod y rhan fwyaf o fenywod yn gweithio o dan lefel eu gallu. Rwyf i’n dadlau y bydd y problemau y mae’n eu codi yn anodd eu datrys os na fydd mwy o ddynion yn dewis peidio â gweithio  amser-llawn yn ddi-dor.

Beth bynnag, cafodd y syniad y byddai hyd ein bywydau gwaith yn parhau i grebachu hwb bwysig, a chreulon yn aml, yn ystod argyfwng y 1980au.  Roedd diwydiant traddodiadol, yn yr ystyr yr oedd Williams yn ei ddeall, yn chwalu dan effaith newid technolegol a chamreoli economaidd. Roedd llawer o bobl yn eu 50au – dynion yn bennaf  – yn cael eu helpu neu eu taflu allan o’r farchnad lafur, eu gwneud yn ddi-waith yn ffurfiol neu’n anffurfiol, gyda’u pecynnau iawndal amrywiol. Roedd eu sgiliau yn aml yn mynd yn segur gyda nhw. Felly i’r genhedlaeth hon roedd eu bywydau gweithio yn byrhau, yn wirfoddol neu beidio.

Erbyn hyn mae’r duedd honno wedi ei gwrthdroi. Am wahanol resymau, mae pobl yn disgwyl gweithio mwy, ac mae disgwyl iddyn nhw wneud hynny. Mae hynny weithiau am na allan nhw, fel unigolion, fforddio ymddeol; ac mae’r wladwriaeth erbyn hyn hefyd yn gwthio i’r cyfeiriad hwnnw trwy godi oed pensiwn y wladwriaeth – yn anochel ac yn gywir yn fy marn i. Rheswm arall yw bod pobl eisiau dal i weithio, boed hynny am eu bod yn mwynhau agweddau cymdeithasol eu gwaith, angen yr arian neu eisiau dal i ymarfer eu sgiliau. Ond pan ddaw’n fater o ennill sgiliau newydd mae angen o hyd i ni wneud y newid tuag at yr agwedd sy’n gweld hyfforddiant fel rhywbeth sy’n parhau trwy gydol y bywyd gwaith estynedig hwn. Mae yna ostyngiad sydyn o hyd yn oedran canol y 50au o ran mynediad i hyfforddiant. Mae hyn yn ganlyniad i gymysgedd o agweddau cyflogwyr, a ffurf o hunan sensoriaeth, wrth i bobl hŷn labelu eu hunain yn ddi-gwestiwn yn hen greaduriaid.

Yr ateb priodol yn amlwg fyddai llawer mwy o ymdrech i gynnal cyfleoedd dysgu trwy gydol oes, gan gynnwys dysgu yn y gwaith ac ar ei gyfer. Yn  LTL buom yn dadlau am fodel newydd sy’n doriad pendant oddi wrth y rhaniad difrifol o hen ffasiwn yn 60/65 oed. [2]  Gan na allwn wneud heb gategorïau, fe awgrymon ni yn lle hynny dynnu llinell yn 50, ac eto yn 75.  Mae’r llinell gyntaf yn nodi pwynt ble gallai pobl ddechrau meddwl am eu gyrfaoedd yn y Drydedd Oes: efallai newid swyddi, a/neu symud i waith rhan amser a/neu gymysgu symiau newydd o waith cyflog a gwaith di-dâl. Fe awgrymom, fwy na hanner o ddifrif, y gallai pawb sy’n cyrraedd 50 oed gael taleb ddysgu (neu hwb i’w Lwfans Dysgu Bersonol  – mwy am hyn eto) a fyddai ymhlith pethau eraill yn eu hannog i gymryd stoc o’r hyn y bydd angen iddynt ei ddysgu yn y degawd i ddod, ar gyfer eu gwaith ac yn ehangach ar gyfer eu datblygu personol. Mae NIACE yn ddiweddar wedi bod yn gweithio ar y syniad o adolygiad canol-gyrfa sy’n cynhyrchu digon o dystiolaeth o blaid y fath fenter.[3]

Mae tynnu’r llinell uchaf yn 75 yn fwy dadleuol. Wedi’r cyfan, ychydig o bobl sy’n dal i weithio drwodd i’r oedran hwnnw, hyd yn oed yn rhan amser. Ond persbectif hirdymor oedd ein un ni. Dewisom 75 yn rhannol i greu sioc, i wneud i bobl feddwl yn galetach am y broses hon yn y parhad estynedig. Ond fe’i dewisom hefyd am ei fod yn cyd-fynd â’r cyfartaledd oedran pan fydd afiechydon cronig yn taro. Mae’r cyfuniad o’r ddau yn rhoi cyfiawnhad cryfach na’r rhan fwyaf, er ein bod yn cydnabod mai ffordd fras iawn bob amser yw oed cronolegol ar gyfer diffinio’n categorïau.

Dyna ddigon am barhad yr oes waith. Yr ail ddimensiwn amserol yw’r un a grybwyllais eisoes: ai’r rhagdybiaeth ddi-gwestiwn yw y bydd y gwaith yn ‘amser llawn’. Mae’ rhain yn ddyfynodau trwm: mae’r gwahaniaeth deuaidd rhwng gweithio amser llawn neu’n rhan amser bron gymaint ar ôl yr oes â phennu oed ymddeol o 60/65.   Mae miliynau o ddynion, a llawer mwy o filiynau o ddynion, yn gweithio’n rhan amser. Mae’n un o’r rhesymau nad yw diweithdra wedi codi i’r entrychion yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, fel yr oedd yr economegwyr i gyd wedi darogan. Mae pobl wedi dewis cadw rhywfaint o gyflogaeth yn hytrach na’i golli’n llwyr, ac mae cyflogwyr wedi eu galluogi, neu eu gorfodi, i wneud hyn.

Fe all goblygiadau hyn i’n cysyniad o waith fod yn enfawr. Ar y naill law, gallwn gynnal y farn y dylai pob ymdrech gael ei gwneud i adfer y niferoedd o swyddi amser llawn oedd yn bodoli ddegawd yn ôl. Rwy’n cydymdeimlo â hyn. Mae yna bobl sy’n daer angen mwy o waith, yn enwedig oherwydd graddfeydd cyflog pitw. Mae llawer o’r rhai sy’n gweithio’n rhan amser eisiau mwy o oriau. Yn fy marn i fodd bynnag byddai’n drueni os na allem lunio dadl fwy blaengar a fyddai’n edrych tuag at waith gyda chynhyrchiant uwch, gyda llai o oriau yn arwain at fwy o gynnyrch a gwell graddfeydd cyflog yr awr. Mae hwn yn faes trafod enfawr. Y cyfan ddywedwn i yw bod gan well cyfleoedd dysgu ran bwysig i’w chwarae; ond os byddwn yn canolbwyntio’n unig ar yr agwedd cyflenwi sgiliau allwn ni ddim gwneud y newid sylweddol sydd ei angen. Mewn geiriau eraill, fe ddylem yn awr fod yn talu llawer mwy o sylw i’r ffordd y mae sgiliau’n cael eu defnyddio yn y gwaith. Mae dadansoddwyr fel Ken Mayhew, Ewart Keep ac Alan Felstead wedi bod yn gwneud eu gorau i symud cydbwysedd y drafodaeth i’r cyfeiriad hwn ers cryn amser. Mae angen i ni fynd yn llawer pellach. Mae’n cyflwyno her ddifrifol i’r rhai ohonom sy’n ymboeni’n bennaf am addysg. Oherwydd yr ydym wedi arfer croesawu unrhyw ddatganiad – ac fe gafwyd llawer ohonyn nhw dros y blynyddoedd – sy’n dweud fod arnom angen mwy o sgiliau a sgiliau gwell. Ond fydd mwy o sgiliau a’r rheini’n well ddim ond yn cael effaith wrth gael eu defnyddio; a’u gwobrwyo; a chael eu gweld yn cael eu gwobrwyo.  Felly mae angen i’r rhai ohonom sy’n delio gyda’r ochr gyflenwi ddygnu arni gydag ochr arall yr hafaliad.

 

Yn Culture and Society mae Williams yn trafod mewn peth manylder yr awduron C19 clasurol a ysgrifennodd am effeithiau diwydiannu cyfalafol. Dyma oedd ganddo i’w ddweud am feirniadaeth Ruskin o natur gwaith:

“  ‘A right understanding of labour’:  this is the fundamental emphasis.  Not labour for profit, or for production, or for the smooth functioning of the existing order; but ‘the right kind of labour’ – the ‘felicitous fulfillment of function in living things.’ “

Pryder canolog i Williams felly oedd ansawdd gwaith, a pharch at y sgiliau angenrheidiol mewn llafur corfforol fel unrhyw waith arall. Mae yna gysylltiad amlwg gyda’r hyn yr wyf newydd ei ddadlau, ynglŷn â’r ffordd y mae’n sgiliau a’n galluoedd yn cael eu defnyddio yn y gweithle. Ein pumed argymhelliad yn LTL oedd ‘gwella ansawdd gwaith’, sef gwneud gwell defnydd o’n sgiliau a’n galluoedd. Daw hyn o dan yr un pennawd: rheoli amser gwaith, a pherthynas dysgu gyda’r rheolaeth hwnnw. Mae’n ymwneud â rhythmau gwaith: sut  mae’n patrymau cwrs bywyd dyddiol, wythnosol a blynyddol yn cydio neu beidio yn ein datblygiad a’n galluoedd ein hunain.  Mae gan ansawdd gwaith gysylltiad cynhenid gyda pha mor dda y mae’r ffitiad hwn yn gweithio. Roedd EP Thompson yn un o’r ysgolheigion modern cyntaf i nodi hyn yn ei waith clasurol ar amser diwydiannol.[4]  Mae rhai eraill ers hynny wedi archwilio’r tensiynau rhwng rhythmau mwy neu lai naturiol ymdrechu dynol a’r galwadau ar amserlenni gwaith cyfoes. Mae’n werth ychwanegu’n benodol fod twf mewn swyddi o ansawdd sydd ddim yn rhai amser llawn yn caniatáu amser ar gyfer yr union fath o greadigrwydd personol yn yr ystyr diwylliannol eang y byddai wedi ei gefnogi’n frwd.

Rwy’n troi yn awr, yn fyr iawn, at y trydydd dimensiwn, trywydd gyrfaoedd gwaith, h.y. sut y mae pobl yn gwneud cynnydd neu beidio yn eu gwaith dros gyfnod o amser. Dim ond pan edrychwn ar yrfaoedd pobl dros gyfnod y gallwn farnu pa mor dda y cafodd dysgu a gwaith eu hintegreiddio.  Roedd syniadau Weberaidd am yrfaoedd biwrocrataidd, a’r dyrchafu rheolaidd oedd yn arfer cael ei gysylltu â’r rhain,  bob amser yn cael eu cyfyngu i leiafrif. Erbyn hyn mae llawer o weithwyr proffesiynol gyda chymwysterau uchel yn wynebu dyfodol hynod ansicr. Mae’n aneglur i mi pa mor bell y gall sefydlogrwydd cynnydd parhaus o’r math hwn ddychwelyd. Yr hyn yr hoffwn ei annog yw ein bod yn mynd ati’n ymwybodol i ail gloriannu’r syniad o ‘yrfa’ fel rhywbeth sy’n golygu dyrchafu yn unig, gyda’r camau tuag i fyny yn cael eu hadlewyrchu mewn mwy o dâl.  Unwaith eto, model gwrywaidd yw hwn, a’i amser yn dirwyn i ben. Mae yna straeniau sylweddol wrth i’r model hwn chwalu. Ond mynediad i addysg yw’r cyfrwng allweddol i liniaru’r straeniau hynny, ac i alluogi pobl i feddwl yn wahanol am ba yrfaoedd sy’n agored iddyn nhw. Mae dysgu hefyd, yn fy marn optimistaidd i, yn rhan allweddol o sut y mae pobl yn gwneud penderfyniadau am ba fathau o wobrwyon materol ac anfaterol y gallan nhw anelu atynt, a’r cydbwysedd rhwng y gwahanol wobrwyon hynny.

 

Learning Through Life: cymryd stoc

Trof yn awr at yr Ymchwiliad a gynhaliodd David Watson a minnau i ddyfodol dysgu gydol oes ar gyfer NAICE, gryn 5 mlynedd yn ôl.[5]  Roedd yn fater uchelgeisiol, a gymerodd flwyddyn neu ddwy a thalp da o adnoddau NIACE, ac fe hoffwn dalu teyrnged i NIACE ac yn enwedig i’w brif weithredwr ar y pryd, Alan Tuckett, am fod yn ddigon dewr i ymgymryd â’r fath fenter. Aethom ati i gomisiynu cryn 30 o bapurau, ar amrywiaeth o themâu a phynciau, sy’n adnodd gwerthfawr a pharhaus. Fe ddaethom â’r llinynnau at ei gilydd yn Learning Through Life, gyda 10 o argymhellion pwysig. Rwyf eisoes wedi cyffwrdd â rhai o’r rhain, yn benodol neu drwy oblygiad, ond dyma’r rhestr.  Y cwestiwn yw, beth sydd wedi digwydd ers hynny?

 

Learning Through Life: Argymhellion

  • Seilio polisi dysgu gydol oes ar fodel newydd o’r cwrs bywyd addysgol, gyda phedwar cyfnod allweddol (hyd at 25, 25-50, 50-75, 75+)
  • Ail dafoli adnoddau yn deg a synhwyrol ar draws y gwahanol gyfnodau bywyd
  • Adeiladu set o hawliau dysgu
  • Creu hyblygrwydd: system o gredyd ac annog gweithwyr rhan amser
  • Gwella ansawdd gwaith
  • Creu fframwaith cwricwlwm ar gyfer galluoedd dinasyddion
  • Lledu a chryfhau gallu’r gweithlu dysgu gydol oes
  • Adfywio cyfrifoldeb lleol….    …o fewn fframweithiau cenedlaethol
  • Gwneud y system yn ddeallus.

Dydw i ddim am fynd trwy’r system fesul eitem. (Fe wnaeth rhifyn arbennig o Adults Learning a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2014 yn union hynny, ac fe ysgrifennodd David a minnau hefyd ddarn adolygu ar gyfer rhifyn sydd i ddod o’r European Journal of Education.)  Ond yr ateb byr yw mai ychydig iawn o gynnydd a wnaed ar y rhan fwyaf ohonynt; ac ar rai, heb os, rydym wedi mynd yn ôl.

Cymeraf yn gyntaf y cwestiwn o dafoli cyfleoedd dysgu. Yma mae gennym ddwy duedd glir iawn.  Yn gyntaf, crebachiad cyfleoedd dysgu i oedolion yn gyffredinol, gyda thoriadau i’r ddarpariaeth addysg bellach ac i addysg oedolion/cymunedol. Mae cryn 300,000 o ddysgwyr sy’n oedolion wedi diflannu o’r system yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rwy’n sylwi fod hyn yn digwydd yng Nghymru hefyd, fel rhan o’r lleihad cyffredinol mewn gwariant cyhoeddus. Yn ail, mae yna broses o unffurfioli mewn addysg uwch, yn yr ystyr fod y sector yn diffinio’i ddysgu fwy a mwy yn nhermau myfyrwyr ifanc amser llawn. Wna i ddim mynd trwy’r manylion torcalonnus yma. Symbol o hyd yw’r chwalfa wirioneddol mewn myfyrwyr rhan amser, gyda’u niferoedd wedi disgyn mwy na 40% yn y tair blynedd ddiwethaf. Felly yn hytrach na phoblogaeth myfyrwyr prifysgol fwy amrywiol mae gennym un sy’n gynyddol fwy unffurf, o leiaf cyn belled ag y mae oedran a phrofiad yn y cwestiwn. Mae hyn, gyda llaw, yn tynnu’n sylweddol oddi ar ansawdd yr addysg y mae’r myfyrwyr ieuengaf yn ei gael; bydd unrhyw athro neu athrawes yn dweud wrthych, o leiaf yn y dyneiddiau a phynciau gwyddor gymdeithasol, am fanteision cael myfyrwyr yn y grŵp sydd â phrofiad bywyd. Byddai Williams fel darlithydd efrydiau allanol yn siŵr o werthfawrogi hyn. Mae’r unffurfioli hwn yn peryglu llawer o’r hyn sydd gennym eisoes. Ofnaf fod hyn yn wir am sefydliadau Cymru yn ogystal.

Yn ail, fe wnaethom alw am fwy o hyblygrwydd yn y system, yn enwedig trwy system o gronni a throsglwyddo credyd. Roedd hyn yn un o flaenoriaethau personol David Watson am flynyddoedd lawer. Yn drist, ni chafodd fyw i weld y system yr oedd wedi dadlau mor daer drosti. Ychydig iawn o gynnydd a gafwyd yma. Roedd David yn glir iawn mai mater syml o ewyllys gwleidyddol yw hyn yn genedlaethol a sefydliadol; does yna ddim problemau technegol na phroblemau adnoddau o bwys a fyddai wedi’n hatal rhan wneud cynnydd llawer cyflymach. Mae gan hyn, wrth gwrs, gysylltiad uniongyrchol gyda’r dirywiad mewn astudio rhan amser.

Yn drydydd, roeddem yn awyddus iawn i weld creu strategaethau lleol llawer cryfach ar gyfer dysgu gydol oes. Yma mae’r darlun, yn Lloegr o leiaf, yn ymwneud ag ysbaddu llywodraeth leol. Maen nhw’n ei chael hi’n anodd hyd yn oed i gwrdd â’u cyfrifoldebau statudol, gyda’r canlyniad fod unrhyw beth arall yn cael ei israddio bron yn awtomatig. Mae yna, mae’n wir, gryn dipyn o rethreg yn y gwleidydda etholiad presennol am yr agen i adfer pŵer i ddemocratiaeth leol. Mae arnaf ofn fy mod i’n ddigon sinigaidd ynglŷn â hyn; mae gwleidyddion San Steffan wedi cyd-gynllwynio’n gyson gyda’r Trysorlys i gryfhau rheolaeth ganolog, mewn addysg bron yn fwy nag yn unman arall. Yr hyn a ddywedwn i yw bod yna rai cynghorwyr hynod ymroddgar, gweithgar a medrus sy’n haeddu gwell sylw yn y wasg nag maen nhw’n ei gael, a gwell cydnabyddiaeth nag maen nhw’n ei gael gan y diogwyr sy’n pardduo pob gwleidydd fel rhai sydd yn y busnes er eu mwyn eu hunain.

Rwyf eisiau dychwelyd yn awr at ein hargymhelliad cyntaf, am agwedd wahanol wrth feddwl am gwrs bywyd a’i gysylltu â’n chweched, oedd yn galw am arbrofi ynghylch cwricwlwm dinasyddion.

 

Cwricwlwm marwoldeb

Cafwyd peth ymwybyddiaeth o newid demograffig, a heneiddiad cymdeithas.[6] . ond mae hyn wedi ei eirio i raddau helaeth yn nhermau’r angen a, fwy o ofal iechyd a gofal cymdeithasol – a sut y gall y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ddarparu ar gyfer pobl hŷn.  Mae hon yn ffordd beryglus o unochrog o edrych ar  y mater. Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn rhoi ystyriaeth fwy hirdymor iddo; yn dechrau’n gynt, ac yn galluogi pobl i wneud mwy o ran rheoli eu trydydd a phedwerydd oedran eu hunain. Felly gadewch i ni wneud hyn trwy ystyried sut mae’r pedwar gallu a gynigiom ar gyfer sut y gallai cwricwlwm dinasyddion – digidol, iechyd, ariannol a dinesig – weithredu. Does gen i ond amser am rai awgrymiadau sgematig iawn. Ac rwyf am fod hyd yn oed yn fwy cyfyngol, heb geisio cynnwys y trydydd a phedwerydd cyfnod ond yn siarad yn uniongyrchol, ac yn beryglus, am y broses o farw.

Efallai fy mod yn goramcangyfrif pa mor beryglus yw’r pwnc. Ond yn fy mhrofiad (cyfyngedig), mae marwolaeth a marw’n parhau, os nad yn bynciau tabŵ, yn rhai y mae llawer o bobl yn ei chael h’n anodd eu hwynebu o gwbl. (Rwy’n ymddiheuro os oes rhai yn y gynulleidfa wedi dod yma heb baratoi ar gyfer hyn ac yn teimlo’n anesmwyth yn ei gylch.)  Yn ôl  fy syniad i, fe ddylem fod yn siarad nid yn unig am farwolaeth fel digwyddiad terfynol ein bywydau ond am y broses o farw yn ei chyfanrwydd.  Pryd mae hyn yn dechrau? Mae’n amhosibl ei ddiffinio. Dywedodd RD Laing unwaith fod bywyd yn afiechyd yn cael ei drosglwyddo trwy ryw, gyda chyfradd marwoldeb o 100%.  Does dim rhaid i ni gymryd golwg lawn mor bruddglwyfus, ond credaf yn bendant fod angen i ni ddechrau meddwl am hyn yn gynharach nag y gwna’r rhan fwyaf ohonom – a’i wneud fel cymuned, ac nid yn unig fel unigolion. Efallai y gallem alw hyn yn gwricwlwm ar gyfer marwoldeb.

Dyma droi felly at y pedwar gallu. Gwyddom fod allgau digidol yn broblem i bobl hŷn. Ond mae’r posibiliadau yma yn enfawr, yn enwedig wrth i’r cenedlaethau cyfredol ddod â’u galluoedd digidol uwch i gyfnodau diweddar bywyd. Gall mynediad da, does bosib, wneud llawer i leihau problem fawr Unigrwydd – er fy mod yn llwyr ymwybodol o berygl dibynnu’n ormodol ar dechnoleg, pan mai’r hyn sydd ei angen yw cyswllt dynol uniongyrchol. Mae modd i allu digidol gynyddu gallu rhywun i reoli’r dimensiynau eraill – iechyd, arian, cyfranogi dinesig, ac i gyrchu arbenigedd ynglŷn â hyn. Gall eu helpu hefyd i archwilio a thrafod heneiddio a marw: sut y mae’n effeithio arnyn nhw a’u teuluoedd, beth yw eu cynlluniau ar ei gyfer, ac yn y blaen.

Mae deall agweddau iechyd heneiddio a marw yn hanfodol. Rydym yng nghanol etholiad cyffredinol lle mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sut y bydd yn cael ei ariannu yn brif bwnc.  Mae yna gynigion synhwyrol ar gyfer integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol fel ffordd o wynebu her poblogaeth sy’n heneiddio. Ond mae’r ddadl yn dal i gael ei fframio i raddau helaeth yn nhermau gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal yn cyflenwi gwasanaeth o safon. Mae llawer llai o sylw’n cael ei roi i sut y gellid galluogi pobl i edrych ar eu hôl eu hunain (ac eraill) yn well, i baratoi ar gyfer eu pedwaredd oes ac ar gyfer marwolaeth dda. Fel y nododd y New Economics Foundation mewn adroddiad diweddar [7], dim ond cyfran fach iawn o gyllid iechyd £96biliwn Lloegr sy’n mynd tuag at atal afiechyd. Meddyliaf yn arbennig am yr her iechyd meddwl, cyn munudau olaf ein bywydau. Felly rydym angen llythrennedd iechyd i alluogi gwell cyd-gynhyrchu ar ein gwasanaethau, gyda llawer mwy o gyfranogaeth cwsmeriaid.  Mae arnom eu hangen yn arbennig i wella’n gallu i ddewis pryd y byddwn yn marw: i osgoi ymestyn di-alw-amdano ar fywyd biolegol (neu rywbeth tebyg iddo), ac i ddelio gyda’r materion personol y mae hyn yn eu codi.

Gallu ariannol sy’n dod yn drydydd. Yn LTL  fe bwysleisiom ein bod yn golygu nid yn unig y materion diflas ond pwysig ynglŷn â rheoli arian personol (sydd, gyda llaw, ag ystyr penodol yng nghyd-destun marw, h.y. yr angen i roi trefn ar ein materion ariannol  ar gyfer y genhedlaeth nesaf – sy’n golygu sut i wneud hyn yn deg ac yn gyfiawn yn ogystal ag yn dwt). Fe wnaethom dynnu sylw hefyd at y gallu i gael rhyw ddealltwriaeth o’r materion economaidd ehangach, gan fod y rhain yn rheoli cymaint ar ein bywydau:  sut mae cyfalaf ariannol yn cael ei gronni, ei ddosbarthu a’i ddefnyddio? Dydw i ddim wrth gwrs yn cynnig y dylai pob dinesydd gael rhywbeth syn cyfateb i Economeg 101; ond mae dealltwriaeth o feintiau yn bur sylfaenol i ddinasyddiaeth. Sut, er enghraifft, y gallwn ni ddeall y syniad o gydraddoldeb rhyng-genhedlaeth sy’n cropian i fyny’r agenda gwleidyddol?  Ac i gymryd esiampl hyd yn oed yn fwy amserol, beth yw’r symiau sy’n rhan o osgoi treth, o’u cymharu â thwyll budd-daliadau?

Mae hyn wrth gwrs yn gorgyffwrdd gyda’r gallu olaf – dinesig. Mae dosbarthiad adnoddau rhwng y cenedlaethau yn eitem arall sy’n berthnasol yma. Wnaf i ddim ond crybwyll etifeddiaeth – pa waddol ydyn ni’n ei gadael i genedlaethau sy’n ein dilyn? Mae’r cwestiwn hwn yn ymestyn ar draws pob lefel o weithgarwch dynol, o’r lleol iawn i’r planedol. Yr her dysgu, fe ymddengys i mi, yw sicrhau fod pob un ohonom yn gwybod ein bod wedi gwneud popeth a allem i sicrhau fod ein gwaddol yn un da. Wrth i ni gyrraedd cyfnodau diweddar bywyd, mae’r her o leiaf mor amlwg ag y bu erioed.

Rhaid i mi yma gyflwyno gallu pellach, nad yw’n cael ei grybwyll yn ein hadroddiad. Gallech alw hyn yn athronyddol, neu efallai hyn yn oed yn ysbrydol. Sur ydyn ni’n cymodi’n hunain â marwolaeth?  Mae hwn yn siŵr o fod yn faes lle bydd amrywiaeth enfawr yn yr ymateb ond does gen i ddim bwriad o gwbl o ragnodi’r ffordd ymlaen. Ond i’r rhai sydd ddim yn dibynnu ar grefyddau sefydledig i roi’r ateb iddyn nhw, mae prinder gweithdrefnau, sefydliadau, traddodiadau a gwasanaethau i’n helpu, ac mae hyn mewn oes pan wyddom y gall llawer ohonom fod â phedwaredd oes hir o’n blaenau.

Mae’n fater, yn fwy na dim, o derfynau – neu ffiniau, fel y gallai Williams fod wedi eu galw. Border Country oedd teitl ei nofel fwyaf adnabyddus, lle mae’n archwilio’r tensiynau sy’n codi wrth i bobl grwydro ar draws ffiniau dosbarth, gwlad a chymuned. Ymhle yr ydym yn tynnu’r llinellau, rhwng gwahanol gyfnodau bywyd, ac yn enwedig rhwng bywyd a marwolaeth? Mae’r ffin olaf hon yn mynd yn fwy a mwy amwys, wrth i dechnegau meddygol ar gyfer ymestyn bywyd ddod yn fwy a mwy soffistigedig. Mae’n her enfawr i ni ddysgu sut i ymateb i hyn:  i ni’n hunain fel meidrolion unigol; fel aelodau o deuluoedd; ac fel dinasyddion a ddylai chwarae rhan mewn creu rheolau newydd, galluoedd newydd a moeseg newydd fel y gallwn reoli’r datblygiadau hyn. Rheoli’r ffin symudol hon yw’r dasg y gellir efallai ei galw’n gwricwlwm marwoldeb.

 

Cymunedau adnabyddadwy

Dyna ddigon o hynny. Yn olaf rwyf eisiau troi’n ôl at Raymond Williams a’i waddol. Un o bleserau ailgysylltu â’i waith oedd dod ar draws ei syniad o gymunedau adnabyddadwy. Defnyddiodd Williams hyn i ddadansoddi, trwy ei lenyddiaeth, agweddau tuag at y ddinas a’r wlad. Enghraifft o’r ddadansoddi yw’r ffordd y mae’n disgrifio mor graff sut yr oedd cymunedau Jane Austen wedi eu cyfyngu i’r dosbarthiadau gydag eiddo yn unig, gyda phawb arall wedi eu dileu o’r darlun. Chwalodd y syniad fod cymunedau gwledig yn wybodus am eu bod yn fach;  a gwrthododd y rhaniadau hawdd rhwng cymunedau organig â rhai a ddieithriwyd, yn ogystal â rhwng y trefol a’r gwledig. Ei gasgliad yw:

“An important split takes place between knowable relationships and an unknown, unknowable, over- whelming society. The full seriousness of this split and of its eventual consequences for the novel can be traced only towards the end of the century. . . . We can see its obvious relation to the very rapidly increasing size and scale and complexity of communities: in the growth of towns and especially of cities and of a metropolis; in the increasing division and complexity of labour; in the altered and critical relations between and within social classes. In these simple and general senses, any assumption of a knowable community — a whole community, wholly knowable — becomes harder and harder to sustain.”   (R Williams 1970)

Felly ni ddylem gymryd fod ‘cymuned’ yn dod â chasgliad parod o berthnasau clyd yn ei sgil. Dyna oedd prif neges darlith goffa Williams i WD Thomas, y cyfeiriais ati’n gynharach. I mi mae’r syniad o ‘gymuned adnabyddadwy’ yn un gyfareddol, sydd, does bosib, yn cynnwys llwyth o oblygiadau ar gyfer dysgu. I ba gymunedau dysgu yr ydym yn perthyn, yn ein gwaith, neu’r tu allan, yn lleol neu’n fyd-eang? Faint a wyddom am ein cyd ddysgwyr, a sut y gallem ddod i’w hadnabod yn well?  Sut y gall aelodau unrhyw ‘gymuned adnabyddadwy’ helpu’r naill a’r llall i ddysgu?  Does dim modd fod yna lawer o dasgau pwysicach na dysgu dod o leiaf ychydig yn nes at y cysyniad hwnnw, yn yr amseroedd mwyaf peryglus hyn.

 

[1] www.paulaprinciple.com

[2] Gydag eironi enbyd o drist, roedd David Watson yn 65 union pan fu farw.

[3] http://www.niace.org.uk/current-work/mid-life-career-review

[4] EP Thompson (1967), ‘Time, Work-Discipline and Industrial Capitalism’, Past & Present 38, 56-97.

[5]www.niace.org.uk/ifll-learningthroughlife-summary

[6] Mae’n werth nodi fod Williams wedi cyfeirio at newid demograffig yn ei nofel fwyaf andabyddus Border Country, a gyhoeddwyd yn 1960.  Mae’r prif gymeriad, Matthew Price, yn dychwelyd i weld ei dad Harry sy’n marw. Mae Harry yn ei 60au cynnar, felly mae ei farwolaeth yn gydnaws â’r patrwm arferol. Mae cymydog, Mrs Hybart, newydd adael ar ol galw i weld Matthew a’i fam Ellen.  Gofynna Matthew:

“How old is she now?”

“Over eighty she is.”

“It’s like an extra life, isn’t it?  After Dad’s age.”

‘Well, yes,” said Ellen sharply.  “Yes, it is.”

“We think first of two generations, then three.  The on top of the three there’s this other seeing us all spread out.”   (Border Country Penguin 1960 , t68.)

[7] Anna Coote (2015) People, Planet, Power: towards a new social settlement New Economics Foundation