Addysg fel ffordd o adfer: A yw colegau adfer yn syniad peryglus?

Mae’r drafodaeth ar wasanaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig wedi bod yn un frwd yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yng Nghymru. Dyma’r tro cyntaf er pan sefydlwyd ein senedd ddatganoledig i ni weld llywodraethau o liwiau gwahanol ar ddau ben yr M4. Ychwanegwch Lywodraeth Glymblaid y Deyrnas Unedig, refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban ac adladd yr argyfwng economaidd byd-eang, a’r canlyniad i hynny oedd trafodaeth a gynhyrchodd lawer o wres ond dim cymaint â hynny o oleuni.

Pa un bynnag ydych chi wedi’ch clymu’n ideolegol wrth ‘Gymdeithas Fawr™’ Cameron a lleoliaeth, neu’r mantra Jonesaidd o ‘ddelifro, delifro, delifro’, un gair ffasiynol y mae’r ddwy lywodraeth wrth eu bodd yn ei ddefnyddio yw ‘cydweithredu’. Oni fyddai h’n syniad peryglus wedyn i ddau fwystfil mawr gwasanaethau cyhoeddus – addysg ac iechyd – gydweithredu?

Mae gwahaniaethau mewn penderfyniadau polisi a gwario ar iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr a Chymru yn golygu ein bod bellach yn gweld modelau newydd o ofal yn datblygu ar y naill ochr i Glawdd Offa – er nad o bosib gyda chymaint o wahaniaeth o ran canlyniadau ag y mae rhai wedi ei awgrymu! Un datblygiad diddorol yn Lloegr yn ddiweddar yw sefydlu’r Colegau Adfer.

Mae Colegau Adfer yn bodoli mewn sawl ffurf, ac mae gwahanol fodelau i’w cael oherwydd y ffordd y mae ymddiriedolaethau Lloegr yn comisiynu eu gwasanaethau iechyd, ond y mantra cyffredinol yw eu bod yn arwain pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl tuag at adfer trwy addysg. Mae’r colegau’n dod â dwy set o arbenigwyr – proffesiynol a phrofiad at ei gilydd mewn amgylchedd coleg gyda’r un systemau â sefydliadau addysgol traddodiadol eraill.

Maen nhw’n cyflenwi rhaglenni addysg a hyfforddiant cynhwysfawr, yn aml dan arweiniad cymheiriaid, i wneud myfyrwyr (nid cleifion!) yn arbenigwyr ar ofalu amdanynt eu hunain. Mae hyn yn galluogi’r myfyrwyr i reoli eu bywydau eu hunain, datblygu cysylltiadau cymdeithasol cryfach, mwy o ymdeimlad o bwrpas a llawer o’r sgiliau y maent eu hangen ar gyfer byw a gweithio.

Mae pob un o’r cyrsiau a ddarperir wedi eu cynllunio i gyfrannu tuag at  les ac adfer. Mae pobl sy’n rhannu profiad o heriau iechyd meddyliol neu gorfforol yn dysgu ar y cyrsiau gyda’r bwriad o symbylu gobaith a chorffori egwyddorion adfer.

Mae gan Gymru eisoes y raddfa uchaf o bresgripsiynau gwrth-iselder ymhlith cenhedloedd y Deyrnas Unedig, ac mae problemau iechyd meddwl eisoes yn un o heriau iechyd cyhoeddus mawr mawr ein cenhedlaeth. Felly, i droi at fy nghynnig peryglus:

  • Mae swm bach o arian isadeiledd iechyd yn cael ei wario ar sefydlu dau beilot Coleg Adfer yng Nghymru (un yn y gogledd, un yn y de)
  • Mae 50% o’r cyfleuster yn cael ei ddefnyddio’n unig ar gyfer dibenion Adfer, gan ddilyn y model a fabwysiadwyd mewn llawer o ardaloedd yn Lloegr lle mae myfyrwyr yn cael eu dysgu i reoli eu gofal eu hunain.
  • Mae’r 50% sydd ar ôl yn cael ei ddefnyddio fel adnodd ar gyfer gweddill y gymuned i fynychu cyrsiau addysg oedolion. Gan gydnabod manteision iechyd enfawr addysg oedolion – bydd hyn yn cael ei ariannu ar y dechrau gan gyllid yr isadeiledd iechyd, a ffioedd gan alluogi’r gangen hon o’r adnodd i ddod yn hunan gynhaliol, a chodi mwy o gyllid i helpu’r Coleg Adfer yn ariannol. Byddai’r rhan hon o’r adnodd yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sydd ymhellach ar y ffordd i adferiad barhau â’u haddysg, gan hybu eu hadferiad a’u cyflogadwyedd a sgiliau.

 

Os bydd y cynlluniau peilot yn llwyddiannus, gallai’r Byrddau Iechyd Lleol adeiladu ar y llwyddiant hwn ac ymestyn y Colegau Adfer ledled Cymru gan weithio ar fodelau tebyg.

O dan y cyfyngiadau ariannol yr ydym yn debygol o’u gweld yn y cylch gwleidyddol sydd o’n blaenau, rhaid i ni roi’r gorau i ddefnyddio ‘cydweithredu’ fel gair ffasiynol, a’i droi’n weithredu ystyrlon. All gwasanaethau cyhoeddus ddim gweithredu mewn seilos bellach. Rhaid iddyn nhw ddod at ei gilydd i gynnig un gwasanaeth cyhoeddus unedig i’r cyhoedd yng Nghymru. A allai cyfuniad o addysg ac iechyd trwy’r model Coleg Adfer fod yn gam peryglus cyntaf?