Y Ffordd Briciau Melyn o Ddysgu

Yn y drafodaeth ar ‘A yw Addysg yn Cael ei Wastraffu ar yr Ifanc?’ yn yr Ŵyl o Syniadau Peryglus ddiweddar, gwnaeth Louise Taylor, prif swyddog gweithredol y Big Learning Company, sylw rhyfeddol – mae’n bosib fod y person cyntaf i fyw yn 200 mlwydd oed eisoes wedi ei eni. Syniad brawychus!

Gallai person o’r oedran hwnnw alw ar brofiad a gwybodaeth anferthol. Gwnaeth hynny i mi feddwl am y cynnydd mewn disgwyliad einioes a beth mae hyn yn ei olygu o ran addysg oedolion.

Iawn, efallai na fydd 200 mlynedd yn digwydd, ond fe wyddom fod y nifer o bobl dros eu cant yn cynyddu’n gyflym. Dengys data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod yna 13,780 o bobl dros eu 100 yn y Deyrnas Unedig yn 2013. Roedd 710 yn fwy na 105 oed. Mae’r ffigwr hwn fwy na phedair gwaith yn fwy nag oedd yn 1983. Mae’r nifer o rai yn eu 90au wedi cynyddu o 157,390 yn 1981 i fwy na hanner miliwn yn 2013.

Roedd y dinasyddion hŷn yma yn yr ysgol yn y 1920au a’r 1930au. Fe ddechreuon nhw weithio a chodi teuluoedd yn y 1930au a’r 1940au.

Pe bydden nhw heb dderbyn addysg bellach ar ôl yr ysgol (ac fe adawodd llawer yn 14 neu 15), byddai’n rhesymol iddyn nhw fod yn credu fod y camlesi ar y Blaned Mawrth wedi eu hadeiladu gan Fawrthiaid, na fyddai’r haul byth yn machlud ar yr Ymerodraeth Brydeinig ac y byddai gan bob awyren bropelors.

Dim ond dechrau yw’r wybodaeth a gaiff person ifanc yn yr ysgol. Erbyn hyn mae’n dod yn fwy ar ôl yr oes nag ydoedd hyd yn oed 20 mlynedd yn ôl.

Bydd byd gwaith hyd yn oed yn 2030, 2050 a 2070, heb son am ymhen 100 mlynedd, yn wahanol iawn i’r hyn sy’n bodoli heddiw. Dydyn ni ddim yn siŵr ym mha ffyrdd, ond y proffwydoliaethau presennol yw y bydd pobl yn newid eu swyddi yn amlach, weithiau’n symud o fewn yr un alwedigaeth eang, ac weithiau i yrfa gwbl wahanol. Bydd angen i sgiliau gael eu diweddaru’n gyson.

Bydd oedolyn o’r oedran 18 ac yn byw i fod yn 90 yn treulio 630,000 o oriau ar y ddaear (72 blwyddyn x 365 diwrnod x 24 awr) gan ychwanegu ychydig am flynyddoedd naid!. Bydd tua 200,000 o oriau yn cael eu treulio’n cysgu (8 awr y dydd?) a 92,000 awr arall yn gweithio rhwng oedran 20 a 70 (8 awr y dydd am 230 diwrnod y flwyddyn am 50 mlynedd) – ydym, rydym yn buddsoddi cymaint ddwywaith o amser yn cysgu nag yn gweithio. Mae tua 338,000 o oriau ar ôl i edrych ar ôl ein teuluoedd, i deithio ac i siopa, i’w treulio mewn gweithgareddau hamdden ac i’w buddsoddi mewn addysg a sgiliau.

Ffigyrau bras yw’r rhain. Ond petai dim ond 5% o amser person sy’n byw i fod yn 90 yn cael ei fuddsoddi mewn addysg ar ôl 18, yna rydym yn sôn am bron i 17,000 awr, neu tua 700 o ddyddiau 24 awr llawn yn ystod ein hoes.

Gwyddom y gall ymgysylltu’n ymarferol ag addysg oedolion ddod â manteision enfawr i iechyd a lles. Mae’n codi lefelau sgiliau ac yn hybu’r economi a, thrwy ddod â phobl at ei gilydd, yn helpu i adeiladu cymunedau lleol. Mae’n gostwng lefelau troseddu.

Felly fy syniad ddim-mor-beryglus yw y dylai pawb sy’n cwblhau eu haddysg orfodol gael eu harfogi gyda’r sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol i ymdopi mewn bywyd. Ond – ac mae hyn yn sylfaenol – fe ddylen nhw adael gyda’r ddealltwriaeth glir mai dim ond dechrau yw’r dysgu a chyda’r awydd a’r brwdfrydedd i barhau eu haddysg trwy gydol eu hoes.

Fy ail syniad mwy peryglus. Mae dinasyddion yn rheolaidd yn derbyn cyngor ar faint o weithgarwch corfforol y dylen nhw ei wneud bob wythnos; y mathau o fwyd y dylent fod yn ei fwyta neu ddim yn ei fwyta; nifer yr unedau o alcohol y dylent fod yn eu hyfed neu ddim yn eu hyfed; peryglon iechyd ysmygu. Mae athletwyr yn cael rhaglenni ffitrwydd i’w dilyn. Mae’r gwasanaeth gyrfaoedd yn rhoi arweiniad i bobl ar gyfer dod o hyd i swyddi addas. Yn yr un modd fe ddylai dinasyddion gael eu cynghori ar yr isafswm o addysg angenrheidiol bob wythnos ar gyfer cadw’r meddwl yn effro, y corff yn iach a’r rhagolygon swyddi yn uwch, a chael cymorth i ddarganfod yr addysg yma.

Pwy a ddylai roi’r cyngor hwn? Wel gadewch i ni ddechrau gyda’r Llywodraeth. Yn union fel y mae’n sefydlu cyrff ymgynghorol ar ystod enfawr o feysydd, dylai panel o arbenigwyr gael eu penodi i wneud argymhellion ar y swm a’r math o ddysgu y dylai person gymryd rhan ynddo bob wythnos a chynnal asesiadau effaith i brofi a yw’r cyngor hwn wedi gweithio. Math o Sefydliad Gwladol ar gyfer Rhagoriaeth Iechyd a Gofal (NICE) ar gyfer addysg. A beth am gael ap i alluogi unigolion i gadw golwg ar eu dysgu yn union fel y mae llawer heddiw’n monitro eu lefelau calorïau, pwysau a thaldra. .

Yn drydydd, dylai meddygon gael eu hyfforddi i roi presgripsiwn addas ar gyfer dysgu i’w cleifion, yn hytrach na thabledi, a dylai ysbytai ystyried sut i droi cleifion yn fyfyrwyr. Dylai addysg fod yn ganolog i waith carchardai. Dylai cymdeithasau tai ddarparu dosbarthiadau rhifedd i rai o’u tenantiaid. Dylai trenau, bysiau ac awyrennau ddarparu cyrsiau byr – pan fod rhaid i deithiau hedfan hir bob amser gael dewis o ffilmiau ond dim cyrsiau addysgol? Mewn gair, pam na ddylai addysg ymdreiddio i holl gylchoedd bywyd.

Bydd dysgu’n dod yn ffordd droellog fodern o friciau melyn y gall unigolion deithio ar ei hyd – weithiau’n symud yn gyflym, weithiau’n araf wrth iddyn nhw fordwyo troadau bywyd, ond bob amser yn symud ymlaen. Yn nesu’n gyson at y 17,000 awr yna, os byddwch chi’n ddigon lwcus i gyrraedd 90 mlwydd oed, neu ragor os cyrhaeddwch eich 100, neu hyd yn oed 200!