Breuddwydio am syniadau peryglus ar gyfer llythrennedd oedolion

Sgiliau Bywyd

Ar droad y ganrif hon, fe wnaed yr hyn oedd mwy na thebyg y buddsoddiad pwysicaf yn hanes y Deyrnas Unedig mewn llythrennedd oedolion, Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) a rhifedd yn Lloegr trwy’r Strategaeth Sgiliau Bywyd. Gosodwyd safonau; cynlluniwyd cwricwla; datblygwyd strategaethau asesu; hyfforddwyd athrawon a chrëwyd cymwysterau. Comisiynwyd rhaglen ymchwil i gynnal datblygu. Cynhyrchwyd tystiolaeth oedd yn dangos fod y strategaeth yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr, teuluoedd, cyflogwyr, gweithleoedd ac athrawon. Rhan o waddol Sgiliau Bywyd yw cydnabyddiaeth gyffredinol o gyfraniadau allweddol llythrennedd, ESOL a rhifedd i ddatblygiad cyflogadwyedd, economi effeithiol a chydlyniant cymdeithasol.

 

PIAAC, yr arolwg sgiliau oedolion

Datgelodd y Rhaglen ar gyfer Asesu Rhyngwladol Cymwyseddau Oedolion (PIAAC), a gynhaliwyd gan Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn 2013, fod Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu gosod yn 15fed mewn llythrennedd ac 17eg mewn rhifedd o blith y 24 o genhedloedd oedd yn cymryd rhan. Dewisodd Cymru a’r Alban beidio cyfranogi yn y cyfnod hwn.

Nid dyma’r lle i drafod manylion y broses arolygu na’r canlyniadau. Fodd bynnag, mae PIAAC yn ddefnyddiol iawn ar gyfer bwrw goleuni ar fywydau ac addysg oedolion, a goleuo materion o fewn gwledydd yn ogystal â rhwng gwledydd. Sbardunodd canlyniadau PIAAC drafod a dadlau, mwy o ddadansoddi ac ymatebion seiliedig ar wledydd am lythrennedd oedolion, ymhlith darparwyr a llunwyr polisi.

https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/394260/bis-15-33-international-review-of-adult-basic-skills-learning-from-high-performing-and-improving-countries.pdf

Felly, rhaid i rywun ofyn pam, er gwaethaf buddsoddi, fod tablau data yn dal i awgrymu fod yna rai heriau mawr ynglŷn â datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd ymhlith oedolion yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, o’u cymharu â rhai gwledydd eraill.

Gallai rhai ddadlau fod yr ateb posib yn ymwneud ag amseru anghyfartal buddsoddi mewn llythrennedd a rhifedd oedolion yr arolwg PIAAC. Bydd arolygon PIAAC yn y dyfodol yn cadarnhau neu wrthbrofi hyn. Mae eraill i’w gweld yn barod iawn i feio ysgolion am beidio paratoi plant a phobl ifanc yn ddigonol. Fe all mai rhan o’r ymateb fyddai nad yw cymharu perfformiad mewn, er enghraifft, Ffinneg (iaith ffonetig reolaidd) gyda Saesneg yn sylfaen deg ar gyfer tablau cymharu.

Fodd bynnag, wrth feddwl am lythrennedd oedolion yn unig, credaf fod llawer mwy o’r ddealltwriaeth o’r heriau i’w gael yn agweddau aml haenog datblygu llythrennedd, ym mywydau miloedd o oedolion.

 

Rhai syniadau peryglus

Mae gennym ragdybiaethau anferthol fod pawb yn gallu datblygu eu llythrennedd i’r lefelau sy’n cael eu gosod gan ‘y rhai mewn grym’. Am fwy na chanrif mae’r lefelau i’w cyrraedd mewn llythrennedd wedi codi’n uwch ac yn uwch. Mae’r rhan fwyaf o oedolion y gellid eu hasesu fel rhai gyda lefelau llythrennedd isel wedi bod yn yr ysgol am sawl blwyddyn. Gwyddom fod llawer o oedolion sy’n cymryd rhan mewn dysgu cyfundrefnol a systematig yn gwneud cynnydd, ennill hyder, gwneud argraff yn eu bywydau, ond ddim yn llamu ymlaen i gyrraedd y lefelau a osodwyd. Mae hynny’n awgrymu fod rhywbeth dyfnach wrth wraidd y data cyndyn.

Ai syniad peryglus yw awgrymu y bydd rhai ohonom bob amser yn gweld y sgiliau hyn yn anodd?  Fe allem fod yn fedrus o ran sgiliau a gwybodaeth mewn meysydd eraill ond yn gweld llythrennedd yn her fawr. Nid am fod gennym anawsterau dysgu cyffredinol y mae hyn, ond am fod ein gwneuthuriad genetig yn golygu fod anawsterau penodol yn ein rhwysgo rhan ymestyn at y lefel a osodwyd. Ychydig o feysydd sydd yna mewn bywyd a dysgu lle cymerir yn ganiataol y gall pawb gyrraedd lefelau penodedig.  

Os yw llawer o bobl yn methu â bodloni galwadau cynyddol lefelau llythrennedd, tybed a ddylem gwestiynu pam fod cymaint o’r fath wybodaeth mor ddyrys a chymhleth. Os yw gwybodaeth sy’n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus i’w weld yn anodd, yna fe ddylai’r rhai sy’n gyfrifol am gyfathrebu gymryd mwy o gyfrifoldeb am eglurder cynnwys a dull eu cyfathrebu.  Mae llythrennedd iechyd i’w weld yn un o’r ychydig feysydd lle cafwyd trafodaeth am sut i gefnogi defnyddwyr a darparwyr gwybodaeth. Nid yn unig mae cleifion angen cymorth i ddeall yr iaith arbenigol gymhleth, ond mae gweithwyr meddygol proffesiynol angen help i symleiddio’u jargon er lles i’r rhai y maen nhw’n eu trin.

Ai syniad peryglus yw awgrymu y dylai holl ddarparwyr gwybodaeth gyhoeddus gael eu hyfforddi ynglŷn â sut i gyflwyno’u negeseuon mewn ffyrdd clir a hygyrch?  Gallai defnyddio safonau fel y ‘Nod Crystal’ a’r ‘Plain English Campaign’ helpu darparwyr a defnyddwyr fel ei gilydd. Gallai hyn gael ei ddefnyddio ar gyfer gwybodaeth sy’n cael ei gynnig wyneb yn wyneb yn ogystal â dogfennau ysgrifenedig. Ai syniad peryglus yw y dylai defnyddwyr a darparwyr llythrennedd cyhoeddus wella’u sgiliau?

Mae yna rethreg gref sy’n dweud y dylai dysgwyr gael eu rhoi wrth graidd addysg. Yn ymarferol, mae llawer o brofiadau wedi cael eu gyrru gan gwricwlwm a gynlluniwyd i ddatblygu’r sgiliau penodol yr ystyriwyd eu bod yn angenrheidiol i arddangos gallu i weithredu ar ‘lefel’ benodol. Mae llythrennedd yn fwy na ffordd o weithio allan ystyr testunau amrywiol, ysgrifennu mewn genres gwahanol neu archwilio cymhlethdodau atalnodi neu natur chwithig ein sillafu. Mae rhoi dysgwyr wrth graidd dysgu yn golygu mai nhw sydd mewn rheolaeth; dylai eu hymddygiadau, gweithgareddau a diddordebau llythrennedd yrru’r cwricwlwm, a’u gwybodaeth a sgiliau presennol sy’n cael eu defnyddio fel seiliau ar gyfer datblygu. Gwn fod cymwysterau ac achrediadau yn bwysig ac yn cael eu defnyddio fel trwyddedau ar gyfer ar gyfer astudiaist neu waith pellach, ond mae’n ymddangos eu bod wedi methu gweithredu fel dirprwyon ar gyfer datblygu galluoedd perthnasol ar gyfer llawer o bobol.

Ai syniad peryglus yw rhoi’n ffydd mewn oedolion syn gwybod eu hanes dysgu eu hunain, yn ogystal â llawer o’r heriau llythrennedd dyddiol y maen nhw’n eu hwynebu neu eu hosgoi?  A yw’n beryglus gosod ein ffydd mewn tiwtoriaid a all archwilio gyda’r oedolion hyn y ffyrdd gorau i adeiladu ar wybodaeth a dibenion ac arferion llythrennedd sy’n bodoli? A yw’n syniad peryglus datblygu galluoedd a strategaethau ymdopi effeithiol yn hytrach na chanolbwyntio ar ennill cymhwyster neu lwyddo mewn asesiad penodol?  Ac a yw’n syniad peryglus bod yn atebol drwy effaith ar fywydau unigolion, yn cael ei gipio gan gofnodion dysgwyr, tystiolaethau a, enghreifftiau darluniol o newid?

Yr hyn y mae llawer o oedolion ei eisiau yw dysgu a chefnogaeth, yn cael ei ddarparu mewn dull parhaus, yn y dull ac ar yr adeg y maen nhw ei angen. Gellid cael cyfnodau o ddysgu dwys bob yn ail â hyrddiau byr o gefnogaeth tiwtoriaid i fynd i’r afael â heriau neu anawsterau penodol. Gall cyrsiau a chymwysterau ynghlwm ag amser penodol fod yn becynnau cyfleus o weithgarwch yn cael ei ariannu, lle gallai’r arianwyr fynnu tystiolaeth o’r effaith ar ffurf cymwysterau. Mae cynnal cefnogaeth a chynnig dysgu ‘penagored’  wedi cael ei weld fel rhywbeth sy’n ‘atal cynnydd’ neu’n ‘blocio’r system’ neu’n ‘cadw pobl mewn silos dysgu’ yn ogystal â bod yn ddrud iawn. Fodd bynnag, os mai dysgu parhaus yw’r angen, does bosib na allwn ganfod ffyrdd i’w ddarparu.

Yn ystod y 1970au a’r 80au cafodd niferoedd mawr o wirfoddolwyr eu recriwtio a’u hyfforddi i gefnogi dysgwyr, dan arweiniad tiwtor hyfforddedig, yn yr 21ain anaml y mae gwirfoddolwyr yn ymddangos mewn darpariaeth ‘prif ffrwd’ a ariannwyd.

A yw’n syniad peryglus dod â gwirfoddolwyr yn ôl, yn enwedig ar adeg pan fo’r boblogaeth o bobl hŷn yn byw’n hirach ac yn iachach, llawer ohonyn nhw’n chwilio am gyfleoedd i gyfrannu ar gymunedau a chymdeithas? Ai syniad peryglus yw meddwl y gallai tiwtoriaid gyda chymwysterau da gael eu cefnogi gan wirfoddolwyr a hyfforddwyd? Ai syniad peryglus yw hyfforddi gwirfoddolwyr fel pencampwyr yn y gweithle, mewn gwasanaethau fel llyfrgelloedd cyhoeddus, canolfannau Cyngor Ar Bopeth, canolfannau iechyd, canolfannau crefyddol, llochesi, tafarnau, clybiau a hyd yn oed archfarchnadoedd, fel y gallai unigolion droi atynt pan fyddai angen am sesiynau tiwtorial byr neu gefnogaeth i fynd i mewn i addysg fwy parhaol?  A yw’n syniad peryglus i wirfoddolwyr gefnogi cylchoedd neu glybiau dysgu, mewn amrywiaeth eang o leoliadau a chyd-destunau, lle maen nhw’n cael eu harwain a’u cynghori gan arbenigwyr neu uwch diwtor a lle byddai cost cyfleoedd dysgu yn llawer rhatach na’r ddarpariaeth bresennol?

Mae ymchwil a datblygu wedi bod yn sail i lawer o’n dealltwriaeth o lythrennedd. Rydym wedi dysgu sut i asesu ac adnabod llawer o alluoedd llythrennedd, hyfforddi ac arfogi tiwtoriaid, dynodi’r sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer gwahanol ddibenion a chreu adnoddau perthnasol.

Fodd bynnag, mae darllen ac ysgrifennu ynddynt eu hunain yn profi chwyldro trwy dechnolegau digidol. Mae’n anodd darogan effaith y newidiadau hyn ar y ffordd yr ydym yn trin gwybodaeth, yn cyfathrebu ac ymateb gyda’r naill a’r llall. Mae’r ansicrwydd a newid cyflym yn heriol ond hefyd yn cynnig cyfleoedd i ni. Does dim ond rhaid i chi eistedd ar drên neu fws i sylweddoli sut y mae bron bawb yn darllen dyfais electronig a’i defnyddio i gyfathrebu. Mae llawer, yn enwedig pobl ifanc, yn ‘llythrennol’ yn ddigidol, yn gallu hwylio, trin a gweu eu ffordd drwy brosesau a gweithdrefnau cymhleth a chyfathrebu’n effeithiol, ond mewn ffyrdd sy’n aml yn wfftio confensiynau ‘arferol’ llythrennedd. Mae llawer o gwricwla yn anwybyddu’r chwyldro hwn mewn darllen ac ysgrifennu bron yn llwyr.

Ai syniad peryglus yw harneisio sgiliau a gwybodaeth ddigidol sydd ‘draw acw’ i ffurfio dysgu trwy gymheiriaid a phartneriaethau, lle mae ffrindiau’n dysgu gan y naill a’r llall, yn cyfnewid a gwella’u gwybodaeth a’u sgiliau ei gilydd?  A yw’n syniad peryglus meddwl y gallai rhai oedolion ifanc sydd wedi eu ‘hallgau’ ddatblygu sgiliau llythrennedd trwy rannu eu gwybodaeth a’u sgiliau digidol gyda phobl hŷn sy’n gwybod cryn dipyn a llythrennedd confensiynol?  A yw’n syniad peryglus mentro archwilio a phrofi ffyrdd newydd a gwahanol o ymgysylltu â dysgu, trwy ddulliau sy’n defnyddio ‘llythrennedd anghonfensiynol’ ond yn cysylltu gyda bywydau go iawn cymaint o bobl? 

Gallwn sôn mwy am werthfawrogi pwysigrwydd siarad a gwrando. Mae’r galluoedd hyn nid yn unig yn gonglfeini llythrennedd, ond wrth graidd ein dynoliaeth. Maen nhw’n ein helpu i drefnu, archwilio a mynegi meddyliau a syniadau yn ogystal â chyfathrebu fel unigolion neu mewn grwpiau. Mae siarad a gwrando yn llunio, goleuo a chefnogi’r sgiliau llythrennedd eraill. Mae llawer o gyflogwyr yn cwyno nad oes gennym y sgiliau cyfathrebu ‘iawn’. Mae angen i ni eu datblygu i fynegi ac esbonio pwy ydyn ni, yn ogystal â thrysori a gwerthfawrogi’r naill a’r llall. Gellid annog a mynegi syniadau peryglus mewn grwpiau trafod a dadlau wedi eu trefnu a’u hwyluso mewn tafarnau, grwpiau, sefydliadau crefyddol, gweithleoedd a chanolfannau cymdeithasol. Gallent gynnig profiadau dysgu bywiog lle mae pobl yn archwilio cysyniadau, trafod gwahaniaethau ac amddiffyn yr hawl i siarad a chael eu clywed. Mewn rhai cyd-destunau cyfoes, gallai’r rhain gael eu hystyried yn syniadau gwirioneddol beryglus, ond, yn enwedig mewn blwyddyn etholiad cyffredinol, credaf eu bod yn hanfodol. Siarad a gwrando yw’r sgiliau sy’n ei helpu i gysylltu â’n gilydd a dysgu sut i fod yn fwy goddefgar a deallgar. Pa bris fydden ni’n gallu ei roi ar y fath ganlyniadau i ddysgu llythrennedd?

Nid dadlau yr wyf y dylai’r holl bobl hyn sy’n astudio’n ddiwyd i ennill cymwysterau a chydnabyddiaeth o’u sgiliau llythrennedd roi’r gorau iddi. Dydw i chwaith ddim yn awgrymu na ddylai’r cyfleoedd hynny gael eu hysbysebu a’u darparu. Mae cyrsiau a chanlyniadau o’r fath yn bwysig. Ond credaf, ar gyfer oedolion sydd ddim yn gweld y llwybrau a safonau dysgu hyn yn ddeniadol na chyraeddadwy, y dylid chwilio am ddewisiadau eraill. Rhaid i ddarparwyr a llunwyr polisi llythrennedd oedolion nid yn unig adeiladu ar y cyfoeth o wybodaeth sy’n bodoli eisoes, ond rhaid iddyn nhw hefyd freuddwydio breuddwydion peryglus; cymryd risgiau; datblygu ymddiriedaeth mewn dysgwyr a thiwtoriaid.; ac adnabod a dathlu llwyddiannau. Ar ôl hynny’n unig y bydd yr heriau ar broblemau a amlygwyd mewn arolygon fel un PIAAC yn dechrau diflannu.