Lliniaru tlodi trwy addysg

Tra bod economi’r DU yn symud allan o ddirwasgiad ac i gyfnod o dwf, mae awdurdodau lleol a sefydliadau eraill sy’n ymwneud mwyaf â sefydliadau Addysg Uwch Cymru yn wynebu toriadau enbyd yn eu cyllid, a fydd yn gwaethygu’r problemau economaidd-gymdeithasol mewn lleoliadau sy’n dibynnu llawer ar wasanaethau sy’n cael eu cyllido gydag arian cyhoeddus ac sydd ymysg yr ardaloedd tlotaf yng ngorllewin Ewrop.

Mae un testun trafod amlwg a gafodd lawer o sylw yn ymwneud â rôl addysg fel arf allweddol ar gyfer lliniaru tlodi. Mae hyn ynddo’i hun yn senario amlweddog. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys y trafodaethau diweddar ynglŷn ag effeithiolrwydd hyfforddi athrawon yng Nghymru, y canlyniadau PISA diweddar ac ystyriaethau gwleidyddol gallu awdurdodau lleol i reoli’r ddarpariaeth addysg. Mae toriadau ariannol sydd i ddod i’r sector Addysg Bellach yng Nghymru yn ymddangos yn debygol o leihau gallu’r sector i gyfrannu at ddysgu fel ffordd allan o dlodi ac allgau cymdeithasol. Bydd cyllid ar gyfer Llwybrau Dysgu 14 -19 yn cael ei glustnodi ond fe all cyfleoedd ar gyfer dysgwyr hŷn sy’n gweithredu fel rhanddeiliaid cymunedol yn hawdd gael eu peryglu.

O ran Addysg Uwch, mae datganiadau polisi Llywodraeth Cymru a chynlluniau strategol sefydliadol Addysg Uwch yn ategu ymrwymiad i adfywio a chynnal cymunedau yng Nghymru. Mae cyfranogaeth mewn Addysg Uwch yng Nghymru’n cynyddu’n raddol. Mae mentrau fel Campws Cyntaf yn ymdrechu i wella lefelau cymharol isel o gyfranogaeth mewn Addysg Uwch gan bobl o ardaloedd o amddifadedd. Gall cyfranogaeth a chyflawni llwyddiannus gan fyfyrwyr o gefndiroedd an-nhraddodiadol gael canlyniadau llwyddiannus o ran cyfleoedd bywyd a llwybrau gyrfa mewn cymhariaeth â llawer sydd ddim yn mynd ymlaen i Addysg Uwch. Fodd bynnag pobl ifanc yw’r rhan fwyaf o israddedigion Cymru, felly mae yna botensial ar gyfer effaith negyddol lle bydd graddedigion ifanc yn gadael ardaloedd fel y Cymoedd i astudio heb unrhyw ddyhead i ddychwelyd. Mae’r ffactorau perthnasol yn cynnwys ymbellhau diwylliannol a phrinder cyfleoedd swyddi ar lefel graddedigion.

Mae rhai cwestiynau’n aros ynghylch natur ymroddedig amddifadedd ecomomaidd-gymdeithasol mewn ardaloedd sy’n agos at sefydliadau Addysg Uwch. Mae mentrau fel Prifysgol Blaenau’r Cymoedd a Hafan Dysgu ym Merthyr Tudful a Blaenau  Gwent yn ymdrechion dewr i’w croesawu. Fodd bynnag  mae’r sector Addysg Uwch yn dal i raddau helaeth yn anweledig. Tra bod mentrau ar gyfer ehangu mynediad yn hanfodol, nid yw llawer o’r rhain yn darparu presenoldeb parhaol na phwynt cyswllt.

Mae angen ymestyn ymchwil fel sylfaen i drafodaeth ehangach ar lefel wleidyddol a sefydliadol Addysg Uwch er mwyn cynyddu ymgysylltu ac effaith y sector Addysg Uwch yn y pen draw ar wrthsefyll tlodi. Gallai ymchwiliad dechreuol ganolbwyntio ar ystyr a phwysigrwydd termau fel partneriaethau cymunedol gan rai ar lefelau uwch reoli mewn prifysgolion ac arferion seiliedig ar y gymuned.

Mae Paul Murphy, Aelod Seneddol Torfaen, wedi argymell datblygu canolbwyntiau ledled Cymru i gynyddu ceisiadau ar gyfer prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Un ffordd bosib ymlaen fyddai sefydlu rhwydwaith o ganolbwyntiau adfywio , pob un yn cael ei chefnogi gan sefydliad Addysg Uwch. Byddai hynny’n cryfhau’r gallu i gyd-gynhyrchu wrth i’r gymuned a’r sector wirfoddol ymateb i doriadau cyllid a fydd yn golygu nad oes fawr o ddewis heblaw hunanddibyniaeth ar gyfer darparu gwasanaethau. Gallai timoedd amlddisgyblaeth ehangu trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau o’r sector Addysg Uwch gyda manteision i’r sefydliadau Addysg Uwch hefyd o ran dysgu ac addysgu seiliedig ar ymchwil. Pwynt dechreuol amlwg ar gyfer unrhyw ddadl fyddai adnoddau ariannol. Er gwaethaf symudiadau diweddar gan Lywodraeth San Steffan i leihau gwario ar bethau fel budd-daliadau, mae ardaloedd sy’n agos at sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn sugno llawer o arian heb fawr o dystiolaeth fod safonau cyflogadwyedd a chyraeddiadau addysgol i’r trigolion mwyaf ymylol yn gwella. Byddai cynllun peilot mewn nifer fach o ardaloedd, efallai un ym mhob sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru ac yn cael ei ariannu dros gyfnod o amser a fyddai’n caniatáu allbynnau a chanlyniadau penodol, mesuradwy, yn darparu sylfaen ar gyfer dadansoddiad cost a budd.