Llais y plentyn yn gyntaf

Sut ydyn ni’n gwybod ein bod yn addysgu plant a phobl ifanc ar gyfer y byd go iawn? Wel dyna’r cwestiwn mawr. A all recriwtiaid gynghori ar ansawdd y graddedigion sy’n ymuno â nhw? Yn bendant. Allwn ni fesur huotledd a phenderfyniad rhai yn eu harddegau? Dim dwywaith. Ai dyma, fodd bynnag, swm y math o gwestiynau y dylem fod yn eu gofyn i’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc? Mae arholiadau a’r byd academaidd yn bwysig ond ai dyma swm a sylwedd dinasyddion iach? Mae addysgeg gymdeithasol yn ein gwahodd i ystyried darlun mwy. Mae addysg, yn ôl addysgeg gymdeithasol, yn llawer mwy nag athro i ddisgybl, mae gwir addysg yn ehangach a mwy cymhleth nag y mae unrhyw gwricwlwm penodol yn ei orchymyn. Mae addysgeg gymdeithasol yn dadlau fod plant yn naturiol ymchwilgar a llawn cwestiynau ac yn hynny o beth mae gennym ni rywbeth i’w ddysgu. Mae’n awgrymu fod pobl ifanc eisoes yn gofyn y cwestiynau sy’n datblygu eu sgiliau naturiol ac eisoes yn gweithio allan pwy ydyn nhw yn y byd. Does ond angen iddyn nhw allu mynegi eu hunain a dysgu gyda ni. Y cwestiwn i ni yw sut ydyn ni’n gwrando’n effeithiol ar y lleisiau hyn?

Mae enghraifft dda o’r penderfyniad gwirioneddol i gael hyn yn iawn i’w chael yn ardal Reggio Emilia yng ngogledd yr Eidal. Mae’r dull hwn wedi profi ei lwyddiant trwy syniadau syml sy’n cynhyrchu effeithiau dwfn gyda phlant yn academaidd a chymdeithasol:

Mae amser, a sut y mae plant ac oedolion yn ei ddefnyddio, yn ganolog i athroniaeth Reggoi. Mae rhythm a chyflymder y plentyn bob amser yn cael y brif flaenoriaeth . . .golyga hyn gael amser go iawn ar gyfer meddyliau a syniadau’r plant, a rhoi gwerth ar eu gwaith, eu sgyrsiau a’u teimladau trwy arafu i wrando arnynt.[1] oes dim rhaid iddo ddechrau’n fawr ond mae’n dibynnu ar y gred fod pob plentyn yn wir ymchwilwyr ar eu pennau eu hunain. [2] Gall fod mai grŵp o athrawon sy’n treulio amser mewn rhyw fyfyrdod beirniadol yn bersonol neu fel grŵp. Gallai fod yn ymwneud â sut maen nhw’n gwneud eu gwaith mewn perthynas ag anghenion y maen nhw’n eu dysgu ac yn ceisio gwneud yn siŵr fod eu lleisiau’n cael eu clywed trwy sgwrs ac ymddygiad ym mhob sesiwn unigol. Gallai fod yn wirfoddolwyr mewn clwb yn mynd yn ôl at y plant pan fydd y plant ddim yn ymgysylltu hyd yn oed trwy weithgareddau sy’n ymddangos yn gyffrous i’r oedolion. Mae gwrando gan oedolion a phlant yn gofyn am fuddsoddi mewn perthynas ac fel yr amlinella Fillipini, rôl ganolog (ac effeithiol) yr athro yw gwrando .[3] Mae gwrando empathig [4] yn arwain nid yn unig at berthynas well ond hefyd at ddyfodol cryfach. Gallai cwestiynau o’r fath gynnwys: ‘beth ydych chi’n ei werthfawrogi yn eich perthynas â fi?’ a ‘pan fyddwch chi’n edrych ar y sefyllfa hon beth ydych chi’n ei weld?’.  Yn ychwanegol, sut gallwn ni hyrwyddo amgylcheddau ar gyfer cydweithio gyda’n gilydd yn hytrach na cheisio’u cael nhw i brofi eu hunain fel unigolion? Mae pobl sy’n cael eu clywed a’u deall yn bobl hapusach.

Beth sydd mor beryglus ynglŷn â’r syniad hwn o wrando? Fel y mae dull addysgeg Reggio Emilia yn gwahodd, mae’n ddull sy’n gofyn i ni arafu, yn rhoi lle dwfn i’r plant mewn ffurfio’r fan a’r lle, ac i ganiatáu i’w hunaniaeth flodeuo trwy eu hymchwiliadau yn y dyfodol. I fod yn addysgwr, i fod yn rhiant, i fod yn wirfoddolwr pobl ifanc mae angen cariad, term sydd wedi ei herwgipio mewn rhai sefyllfaoedd ond os deallwn ni mai ystyr cariad yw bod angen aberth fe allwn fyfyrio ar y canlynol: Pa mor ddifrifol allwn ni gymryd barn plentyn yn y wlad hon cyn iddyn nhw achosi problemau i ni’n hunain yn ein hasesiadau proffesiynol a faint fyddwch chi’n ymladd i  roi llais ac anghenion y plentyn ar flaen ac yng nghanol eich gwaith?

Pe bawn yn gorfod magu fy mhlentyn ‘to,

Byddwn yn gwneud mwy o beintio bysedd a llai o bwyntio bys,

Byddwn yn gwneud llai o gywiro, a mwy o gysylltu,

Byddwn yn tynnu fy llygaid oddi ar yr oriawr, a gwybod sut i falio mwy.

Byddwn yn malio gwybod llai, a gwybod i falio mwy

Byddwn yn mynd i gerdded yn amlach a hedfan mwy o farcutiaid.

Byddwn yn rhoi’r gorau i chwarae bod o ddifrif, a chwarae o ddifrif

Byddwn yn rhedeg drwy fwy o gaeau, ac edrych ar fwy o sêr.

Byddwn yn gwneud mwy o gwtsho, a llai o lusgo.

Byddwn yn gadarn yn llai aml, a chadarnhau llawer mwy.

Byddwn yn adeiladu hunan-dyb yn gyntaf, a’r tŷ nes ymlaen.

Byddwn yn dysgu llai am garu grym

A mwy am rym caru.

Dyw ddim o bwys p’un ai yw fy mhlentyn yn fawr neu’n fychan,

O’r diwrnod hwn ymlaen, fe garaf y cyfan.

Diana Loomans[5]

[1]http://www.educationscotland.gov.uk/learningteachingandassessment/approaches/reggioemilia/about/index.asp

[2] Rinaldi, https://reggioalliance.org/downloads/relationship:rinaldi.pdf

[3] golygwyd gan Carolyn P. Edwards, Lella Gandini, George E. Forman, The hundred languages of children, t.181

[4] Perkins & Fogarty, Active listening: A communication tool

[5] 100 Ways to Build Self-Esteem & Teach Values gan Diana Loomans (c) 2004 New World Library